Skip to content Skip to navigation menu
Os ydych yn byw oddi cartref am y tro cyntaf, mae setlo a chyfarfod â ffrindiau yn gamau cyntaf pwysig. Drwy fyw yn un o breswylfeydd y Brifysgol cewch y cyfle perffaith i gyfarfod â phobl o gefndiroedd gwahanol sy’n astudio ystod eang o bynciau.
Ewch am daith o amgylch ein preswylfeydd gydag un o’r myfyrwyr presennol, Scott
Gwylio’r fideo
Ymgeisiwch drwy’r cylch derbyn arferol a bydd yna warant o le ichi.
Rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i ddod o hyd i le i fyfyrwyr sy’n dod drwy glirio.
Mae yna warant o le mewn preswylfa i fyfyrwyr sesiwn llawn.
Edrychwch ar y rhestr lawn o breswylfeydd sydd ar gael i is-raddedigion.
Symud i neuadd breswyl yw’r peth gorau y gall myfyriwr newydd mewn dinas newydd ei wneud. Dwi’n methu cyfleu mewn geiriau amser mor dda ges i yn y neuadd – dim ond dweud ‘mod i’n ei argymell yn llwyr!
Freya, sy’n aros yn Ne Tal-y-bont
Dych chi’n cwrdd â’r bobl anhygoel yma sy’n gwneud pob math o gyrsiau gwahanol. Roed Neuadd y Brifysgol yn lle hyfryd, ceginau mawr ar bob llawr, llofftydd en-suite ar gael, lle golchi dillad yn y gwaelod, diogelwch, a lle i barcio’r car...gwych!
Silvia, sy’n aros yn Neuadd y Brifysgol
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Canllaw hwylus sy’n gadael ichi gymharu’n preswylfeydd i gyd.
Lawrlwytho
Swyddfa PreswylfeyddPrifysgol CaerdyddBlwch Swyddfa'r Post 533Tŷ SouthgateCaerdyddCF14 3XZ
Ffôn: +44 (0)29 2087 4849 Ffacs: +44 (0)29 2087 4661E-bost: residences@caerdydd.ac.uk