Dewiswch ble hoffech chi fyw
Mae amrywiaeth o breswylfeydd ar gael ichi ddewis o’u plith, yn ôl eich ffordd o fyw a’ch poced. Mae’n bosibl y bydd o gymorth ichi feddwl am y ffactorau a ganlyn wrth benderfynu ar eich llety:
- hunan-arlwyo ynteu prydau wedi’u darparu
- a oes cyfleusterau cawod/tŷ bach en-suite ar gael neu beidio
- ffioedd y breswylfa
- pa mor agos yw’r breswylfa i’ch adeilad academaidd, i ganol y ddinas, neu i’ch dewis chi o gyfleusterau cymdeithasol neu chwaraeon
- ac i rai myfyrwyr, a’r rhai o wledydd tramor yn arbennig, a ydy’r breswylfa ar gael yn ystod gwyliau’r haf (mae holl breswylfeydd y Brifysgol yn caniatáu ichi aros yn ystod gwyliau’r Nadolig a’r Pasg)
Eich hoff ddewisiadau
Wrth ichi wneud cais ar-lein, gallwch osod y preswylfeydd yn nhrefn eich blaenoriaeth o blith y preswylfeydd sydd ar gael. Gwnawn ein gorau glas i sicrhau eich bod yn cael un o’ch hoff ddewisiadau, ond os na fydd hynny’n bosibl, byddwn yn cynnig preswylfa arall ichi ar sail yr hyn sydd ar gael.
Cartrefi cymysg
Mae’n bolisi gennym osod y myfyrwyr mewn fflatiau sy’n gymysg o ran rhyw a chenedl / hil, gan gynnwys ystafelloedd gwely ac astudio ar y llawr isaf. Os hoffech chi fyw mewn fflat i ddynion neu i fenywod yn unig, rhowch wybod yn eich cais ar-lein.
Cyfnodau preswylio
Ewch i’n tudalen Cyfnodau preswylio i weld yr union ddyddiadau.
Ymgeisio ar-lein
Cewch wneud cais am le ym mhreswylfeydd y Brifysgol ar ôl ichi gael cynnig cadarn i astudio yma.
Bydd arnoch angen eich enw defnyddiwr SIMS a’ch cyfrinair, a fydd yn cael eu hanfon atoch drwy’r e-bost ar ôl ichi gael cynnig lle i astudio (sef proses sy’n dechrau ym mis Chwefror).
Ymgeisio ar-lein
Er mwyn sicrhau y caiff lle ei warantu ichi ym mhreswylfeydd y Brifysgol mae’n rhaid ichi:
- Cyflwyno’ch cais ar-lein erbyn dydd Gwener 9 Awst 2013
- Sicrhau cynnig diamod i astudio erbyn dydd Gwener 30 Awst 2013
Sylwer: Os mae eich cais am breswylfeydd yn cael ei dderbyn ar ôl dydd Gwener 30 Awst 2013, neu rydych yn dderbyn cynnig i astudio ddiamod ar ôl dydd Gwener 30 Awst 2013, gwnawn ein gorau glas i ddarparu ar eich cyfer a bydd eich cais yn cael ei brosesu ar sail y cyntaf i'r felin.
Derbyn ar-lein
Sylwer: Os byddwch yn byw yn Nhŷ Liberty, mae’r canlynol yn amherthnasol i chi, ac fe gewch chi ragor o wybodaeth yn uniongyrchol gan Liberty Living. Dylech ymateb i’r wybodaeth honno yn unol â’r cyfarwyddiadau.
Tua diwedd Gorffennaf/Awst/Medi, cewch neges e-bost yn dweud bod eich cais wedi cael ei brosesu ac yn gofyn ichi edrych ar eich Cynnig Preswylfa ar-lein a’i dderbyn.
Mae’n rhaid ichi dderbyn eich Cynnig Preswylfa ar-lein o fewn saith diwrnod neu bydd y cynnig yn dirwyn i ben a chaiff yr ystafell ei dyrannu i fyfyriwr arall. Mae’n bwysig felly eich bod yn bwrw golwg yn gyson ar eich cyfrif e-bost yn y cyfnod hwn. Sylwch ei bod yn bosibl y bydd rhai darparwyr e-bost yn trin y neges fel sbam, felly chwiliwch yn eich ffolder sbam/sothach yn ogystal â’ch blwch derbyn.
Bydd eich Cynnig Preswylfa ar-lein yn cynnwys yr wybodaeth a ganlyn:
- Cytundeb Preswylfeydd
- Telerau ac Amodau Preswylio
- Gwybodaeth am Gyrraedd
- Canllawiau ar Dalu am Breswylfeydd
Ar ôl ichi dderbyn eich Cynnig Preswylfa, caiff eich ystafell ei chadw i chi, a chewch neges e-bost i gadarnhau hynny.
Bydd lle yn cael ei gynnig ichi am gyfnod penodedig a phan fyddwch wedi derbyn eich Cynnig Preswylfa, byddwch yn atebol am dalu’r ffioedd a’r taliadau perthynol am y cyfnod preswylio a nodir yn eich Cytundeb Preswylfeydd.
Llety dros dro
Os na fydd Cynnig Preswylfa wedi’i roi ichi cyn ichi gyrraedd Caerdydd, mae’n bosibl y bydd lle ar gael dros dro mewn gwesty (am gyfnod cyfyngedig yn ystod mis Medi/Hydref) am dâl bach. Ichi gael syniad, £15 y noson oedd y tâl yn ystod sesiwn 2012/2013.