Skip to content Skip to navigation menu
Mae gan Gaerdydd hanes cryf o amrywiaeth o ran ffydd a diwylliant, ac mae'n croesawu myfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd.
Mae mannau addoli ar gyfer pob prif grefydd a ffydd ar gael ar draws y ddinas. I gael rhestr o'r rhain, gweler Gwefan y caplandy.
Mae nifer o ystafelloedd tawel ar gampysau Cathays a Pharc Mynydd Bychan wedi cael eu sefydlu ar gyfer gweddi a myfyrdod unigol, synfyfyrio, cynhemlu neu amser tawel yn unig.
Ddwywaith y flwyddyn, mae ein Caffi Crefydd yn dod â myfyrwyr ynghyd, ni waeth o ba draddodiad ffydd yr ydych yn dod, i wneud ffrindiau a dysgu am ddaliadau crefyddol pobl eraill.
Mae ein Caplandy yn cynnwys caplaniaid Anglicanaidd, Pabyddol a Methodistaidd. Maent yn gweithio ochr yn ochr ag enwadau a chymunedau ffydd eraill yng Nghaerdydd, gan groesawu myfyrwyr o bob ffydd neu â dim ffydd.
Mae'r caplaniaid yn cynnig cyngor, cymorth a gofal, yn cefnogi grwpiau myfyrwyr ac yn trefnu rhaglen reolaidd o addoli, darlithoedd a digwyddiadau cymdeithasol. Drwy ddigwyddiadau fel y Caffi Galw Heibio i Fyfyrwyr, Helfa Wyau Pasg a Pharti Dydd Pancos, mae'r Caplandy'n creu teimlad o gymuned gan helpu myfyrwyr i setlo i mewn a chwrdd â phobl newydd.
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Download a map of the University.
Caerdydd yw un o’r dinasoedd mwyaf fforddiadwy yn y DU. See how far your money goes by using our simple living costs calculator.
Cyfrifwch y costau byw