Skip to content Skip to navigation menu
Mae gennym dros 60 o glybiau chwaraeon yn ymestyn o chwaraeon traddodiadol (fel rygbi, pêl-droed, criced neu dennis) i grefftau ymladd, chwaraeon modur a chwaraeon dŵr
Mae llawer o glybiau'n teithio i bob rhan o'r DU i gystadlu yn erbyn prifysgolion eraill yng nghystadleuaeth Chwaraeon Prifysgol a Cholegau Prydain.
Codir ffi fach am ymaelodi â phob clwb ond mae hyn yn cynnwys yswiriant.
Os nad oes gennych amser i ymrwymo i glwb chwaraeon, mae hefyd gennym sawl cynghrair poblogaidd gan gynnwys pêl-droed 11 bob ochr a 5 bob ochr, pêl-rwyd, sboncen, tennis, badminton a dodgeball. Gallwch gasglu grŵp o ffrindiau ynghyd i ffurfio tîm.
Lleolir ein cyfleusterau chwaraeon ar bedwar safle ar draws y ddau gampws ac maent yn cynnwys pentref hyfforddi, pwll nofio, canolfan ffitrwydd a sboncen a meysydd chwaraeon 33 erw (a ddefnyddir gan garfannau teithiol rhyngwladol).
Ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cynrychioli'u gwlad ar Safon Genedlaethol, Iau neu Hŷn neu y mae eu corff rheoli'n cydnabod bod ganddynt botensial rhagorol, mae ein rhaglen Perfformiad Uchel wedi'i dylunio i gefnogi athletwyr-myfyrwyr i barhau â'u gyrfaoedd chwaraeon ar yr un pryd â'u haddysg.
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Download a map of the University.
Caerdydd yw un o’r dinasoedd mwyaf fforddiadwy yn y DU. See how far your money goes by using our simple living costs calculator.
Cyfrifwch y costau byw