Skip to content Skip to navigation menu
Myfyrwyr yn gweithio i orsaf radio'r Undeb, XPress Radio
Os oes gennych chi ddiddordeb yn y cyfryngau pam na wnewch chi ysgrifennu ar gyfer papur newydd y myfyrwyr, Gair Rhydd, cylchgrawn am fywyd myfyrwyr, Quench, neu roi cynnig ar weithio ar orsafoedd radio a theledu'r myfyrwyr, Xpress Radio a CUTV.
Cynhyrchir y papur newydd sy'n rhad ac am ddim bob dydd Llun yn ystod y tymor, ac mae atodiad Quench ynddo bob pythefnos, ac mae'n cynnwys adroddiadau am y newyddion, llyfrau, bandiau, y sinema a gwybodaeth ac adloniant. Mae'r orsaf radio yn rhoi profiadau gwerthfawr i fyfyrwyr ym maes cyflwyno, cynhyrchu, dylunio, digwyddiadau, gwerthu a newyddion.
Sefydlwyd yn 1972, gair rhydd yw papur newyddion myfyrwyr Caerdydd sy'n rhad ac am ddim. Caiff ei ysgrifennu ar gyfer myfyrwyr, gan fyfyrwyr, ac mae'n ymdrin â'r newyddion, chwaraeon, barn a gwleidyddiaeth ledled campws Caerdydd.
Cylchgrawn am fywyd myfyrwyr sy'n cael ei gyhoeddi bob pythefnos, sy'n cynnwys popeth sy'n amrywio o ffilm a cherddoriaeth i ffasiwn a harddwch.
Mae Xpress yn orsaf radio i fyfyrwyr sydd wedi ennill sawl gwobr ac sy'n darlledu yn ystod amser y tymor. O gerddoriaeth newydd o Gaerdydd hyd at y trafodaethau diweddaraf ar chwaraeon, Xpress yw llais Myfyrwyr Caerdydd.
Teledu Undeb Caerdydd yw'r aelod diweddaraf o gyfryngau myfyrwyr Caerdydd, ond mae wedi sefydlu'i hunain gyda chynnwys gwych p'un ai'r gêm rygbi flynyddol Varsity sy'n cael y sylw, neu fideos croesawu myfyrwyr yn ystod wythnos y glas.
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Download a map of the University.
Caerdydd yw un o’r dinasoedd mwyaf fforddiadwy yn y DU. See how far your money goes by using our simple living costs calculator.
Cyfrifwch y costau byw