Skip to content Skip to navigation menu
Gyda phedair canolfan fwyd yn ogystal â siop ddibynadwy yr Undeb, mae digonedd o ddewis o fwyd.
Dewch i CF10 am y brecwast gorau erioed (heb sôn am y Frechdan Pen Mawr enwog). Mae hefyd ar gael i'w logi ar gyfer partïon preifat.
Mae'r Gegin yn cynnig dewis amgen gwych i fwyd siop os oes awydd rhywbeth wedi'i goginio'n ffres arnoch yn ystod y dydd. Mae gostyngiadau gwych ar gael a dewis da o fwyd poeth ac oer. Y Gegin yw'r lle perffaith i gael egwyl haeddiannol.
Mae'r Taf yn cynnig bwyd gwych am brisi fforddiadwy, sy'n ddelfrydol pan fyddwch chi am dretio eich hunan.
Mae tecawê hoff ddiwylliant Caerdydd yn dod i Undeb y Myfyrwyr. Magic Wrap yw bara dilefain Mediteranaidd a hwmws neu iogwrt mint ar y gwaelod, yna eich dewis chi o lenwad salad; letys, moron, winwns coch, puprynnau melys a chaws ac yn olaf eich prif lenwad fel cyw iâr wedi'i farinadu, cig eidion wedi'i rostio neu falafel yn ogystal ag unrhyw beth ychwanegol.
Ac os nad oes un o'r rhain yn tynnu dŵr o'ch dannedd, ewch i gasglu brechdan neu fyrbryd o Siop yr Undeb.
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Download a map of the University.
Caerdydd yw un o’r dinasoedd mwyaf fforddiadwy yn y DU. See how far your money goes by using our simple living costs calculator.
Cyfrifwch y costau byw