Bywywd
Mae Prifysgol Caerdydd yn ymdrechu i wneud ei holl fyfyrwyr deimlo’n gyfforddus ac yn hapus yn eu hamgylchiadau newydd, ac mae wedi ymrwymo i ddarparu profiad ôl-raddedig o ansawdd da — yn academaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol. Wrth ddod i Gaerdydd, byddwch yn ymuno â chymuned amrywiol a ffyniannus o ryw 5,000 o ôl-raddedigion o amrywiaeth eang o ddiwylliannau, gwledydd, a chefndiroedd cymdeithasol, crefyddol ac ethnig.
Yn yr adran hon, rydym wedi casglu gwybodaeth yn ymwneud ag agweddau o fywyd ôl-raddedig yng Nghaerdydd, gan gynnwys llety, Canolfan y Graddedigion, y sin gymdeithasol ôl-raddedig, yr atyniadau a gynigir gan Gaerdydd a’i chyffiniau, a thudalen 'Ymgartrefu' ddefnyddiol i fyfyrwyr newydd.

