Diwrnod Agored Ôl-raddedigion
Cynhelir Diwrnod Agored Ôl-raddedigion Prifysgol Caerdydd ddydd Mercher 3 Tachwedd 2010.
Mae mynychu Diwrnod Agored Ôl-raddedigion yn gyfle delfrydol i fyfyrwyr sy'n ystyried gwaith ôl-radd i gwrdd â ni wyneb yn wyneb: i siarad â'r staff y byddwch o bosibl yn gweithio gyda nhw, dysgu mwy am y cyfleon ôl-radd a gynigir gennym, a chael profiad o Gaerdydd ei hun.
Archebwch Le Nawr!
Archebwch le i fynychu Diwrnod Agored Ôl-raddedigion drwy ddefnyddio ein Ffurflen Gofrestru Ar-lein. Ceir rhagor o wybodaeth am y digwyddiad isod..
****Cewch fynediad i'r Ffurflen Gofrestru Diwrnod Agored Ôl-raddedigion yma****
Dysgwch Ragor...
Dysgwch ragor am Ddiwrnod Agored Ôl-raddedigion Caerdydd, gan gynnwys amseroedd, lleoliadau, a manylion am yr Hyn sydd Ymlaen.
****Pwyswch yma am ragor o wybodaeth am Ddiwrnod Agored Ôl-raddedigion 2009****
Cyfleon i'ch Ariannu Ar Gael!
Bydd modd i ymwelwyr y Diwrnod Agored sydd â diddordeb mewn cyfleon ymchwil ddysgu mwy am yr ysgoloriaethau newydd uchel eu parch a gynigir yng Nghaerdydd. Mae sawl miliwn o bunnau wedi eu buddsoddi gan y Brifysgol i gyllido 'Ysgoloriaethau Ymchwil y Llywydd' mewn ystod o feysydd. Bydd mwy o wybodaeth am y cyfleon ariannu hyn ar gael yma cyn hir.
Ymweliadau Eraill
Mae croeso i ddarpar ôl-raddedigion ymweld â ni yn ystod y flwyddyn, ac os na ellwch chi ymuno â ni yn ein Diwrnod Agored i Ôl-raddedigion mae nifer o ddewisiadau eraill ar gael.
Ymweliadau ag Ysgolion Academaidd
Yn ogystal â Diwrnod Agored i Ôl-raddedigion y Brifysgol, cynhelir Diwrnodau Agored eu hunain ar gyfer ôl-raddedigion gan rai ysgolion academaidd - neu trefnir cwrdd â darpar ôl-raddedigion i drafod eu posibiliadau.
Os hoffech drefnu apwyntiad personol dylech gysylltu â'r ysgol academaidd y mae gennych ddiddordeb ynddi ymlaen llaw a cheisio eu cyngor. Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt ar wefan yr ysgol academaidd dan sylw - ceir rhestr o'n hysgolion academaidd a dolenni cyswllt ar ein Tudalen Addysg. Fel arall, chwiliwch gronfa ddata'r Chwiliadur Cyrsiau sy'n cynnwys manylion cyswllt ar gyfer rhaglenni ôl-radd penodol.
Teithiau Tywys Campws Parc Cathays
Os ydych wedi trefnu apwyntiad personol i ymweld ag ysgol academaidd yng Nghaerdydd, gall y Swyddfa Recriwtio Ôl-radd drefnu taith gerdded o gwmpas maes y prif gampws ym Mharc Cathays. Cynhelir y teithiau gan staff y Swyddfa Recriwtio Ôl-radd neu gan ein myfyrwyr ôl-radd, a gellir eu hamserlennu'n gyfleus i'ch ymweliad, yn ôl fel y mae staff ar gael. Os hoffech drefnu ymweliad â'r campws cysylltwch â ni naill ai drwy e-bost i graduate@caerdydd.ac.uk neu drwy ffonio +44 (0)29 2087 0084.
Digwyddiadau Recriwtio a fynychir gan y Brifysgol
Bob blwyddyn, mynychir nifer o arddangosfeydd mewn lleoliadau yn y DU ac yn Ewrop gan staff o'r Swyddfa Recriwtio Ôl-radd. Ceir manylion am ddigwyddiadau o'r fath yng nghalendr ein tudalen Newyddion a Digwyddiadau i Ôl-raddedigion cyn gynted ag y maent ar gael.
Manylion cyswllt:

Os ydych am holi rhagor am y diwrnod agored i ôl-raddedigion, neu os oes angen cymorth arnoch wrth drefnu eich ymweliad â Chaerdydd, cysylltwch â ni a byddwn yn fwy na bodlon i'ch rhoi ar ben ffordd. Gellir cysylltu â'r Swyddfa Recriwtio Ôl-raddedigion fel a ganlyn:
Tel: +44 (0)29 2087 0084
Ffacs: +44 (0)29 2087 0085
E-bost: postgradenquiries@cardiff.ac.uk
Swyddfa Recriwtio Ôl-raddedigion
Prifysgol Caerdydd
Deri House, 2-4 Prk Grove
Cardiff
CF10 3PA

