Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Rhagoriaeth Ymchwil ac Addysgu

Ymchwil yng Nghaerdydd

Gwneir ymchwil ym mhob Ysgol ym Mhrifysgol Caerdydd, Cymorth ariannol helaeth yw asgwrn cefn llwyddiant y Brifysgol ym myd ymchwil ac mae rhyw fil o gontractau ymchwil ar waith ar hyn o bryd. Mae’r nifer fawr o gwmnïau sydd wedi deillio o’r Brifysgol yn cyflogi rhai cannoedd o bobl, a chyfanswm eu trosiant yw £35miliwn.

Engineering researchers

Cydnabuwyd perthnasedd yr ymchwil gan amrywiol wobrau, gan gynnwys Gwobr y Frenhines am Gydweithio â Diwydiant a Gwobr Partneriaeth Prifysgol a Diwydiant yr Adran Masnach a Diwydiant.

Mae’r ymchwil hon yn esgor ar fanteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol go-iawn - yn lleol ac yn rhyngwladol - a bydd cydnabod ei hansawdd a’r buddsoddiad cysylltiedig priodol yn cryfhau rhagor ar gyfraniad Prifysgol Cymru fel un o brif ysgogwyr datblygu yng Nghymru.

Addysgu yng Nghaerdydd

Gan fod yr addysgu yng Nghaerdydd wedi’i adeiladu ar ragoriaeth nodedig y Brifysgol ym myd ymchwil, fe gyflwynir y cyfan o’r profiad dysgu mewn meysydd astudio perthnasol ac arloesol. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i sicrhau bod y cyfan o’r amgylchedd dysgu yn gynhwysol, yn ysgogol, yn fuddiol ac yn gynhalgar. Drwy ddarparu cyfleusterau modern a rhagorol, ymagweddau arloesol at addysgu ac asesu, a lefelau uchel o gymorth academaidd a phroffesiynol, fe anogir y myfyrwyr i chwarae rôl weithgar yn eu datblygiad eu hunain.

Ategir y nod hwnnw â’r pwys a roir ar wrando ar farn y myfyrwyr. Ymgorfforir hynny mewn amrywiaeth o fecanweithiau, gan gynnwys paneli staff-myfyrwyr yr Ysgolion. Rhedir y paneli gan y myfyrwyr fel ffordd o ddadansoddi a rheoleiddio ansawdd y profiad addysgu a’r cyfleoedd dysgu a ddarperir gan y Brifysgol. Mewn gair, mae Prifysgol Caerdydd yn rhoi pwys mawr ar safbwyntiau, awgrymiadau a phrofiadau ei myfyrwyr.