Skip to content Skip to navigation menu
Os nad Saesneg yw'ch iaith gyntaf bydd gofyn i chi ddangos bod lefel eich Saesneg yn bodloni gofynion y cwrs.
Mae angen i chi ddarparu canlyniadau unrhyw arholiadau/profion iaith Saesneg a safwyd gennych. Rydym hefyd yn derbyn amrywiaeth o fathau ar dystiolaeth o gymhwysedd iaith Saesneg.
Rhestrir y cymwysterau iaith Saesneg sy'n cael eu derbyn gan y Brifysgol ar gyfer mynediad a'r sgorau gofynnol isod (sylwer bod rhaid inni nodi'r gofynion mynediad gofynnol; mae'n bosibl y bydd tiwtoriaid derbyn yn gofyn am raddau uwch ar gyfer rhai cyrsiau).
Ein prawf o gymhwysedd iaith Saesneg a ffafrir yw IELTS ond rydym yn derbyn unrhyw rai o'r canlynol:
Mae sgoriau TOEFL, TOEFL iBT a Pearson yn gyffelyb i'r sgoriau IELTS canlynol:
Noder: Mewn rhai achosion mae'n bosibl y cynigir mynychu cwrs Saesneg cyn-sesiynol i fyfyrwyr yn lle cymhwyster Iaith Saesneg, neu'n ychwanegol ato.
Os nad oes gennych unrhyw ganlyniadau prawf iaith Saesneg eto, gallwch eu hanfon yn ddiweddarach. Ond noder ar y ffurflenni cais pryd y cymerwyd y prawf iaith Saesneg gennych, neu pryd rydych yn disgwyl ei gymryd, a phryd rydych yn disgwyl derbyn canlyniadau eich prawf. Wedyn gallwch anfon canlyniadau eich prawf atom pan fyddant gyda chi. Yn yr achos hwn, bydd eich cynnig yn amodol ar y Brifysgol yn derbyn canlyniadau'r prawf.
Sylwer, mewn rhai achosion mae'n bosibl y cynigir mynychu cwrs Saesneg cyn-sesiynol i fyfyrwyr yn lle cymhwyster Iaith Saesneg, neu'n ychwanegol ato.
Rydym hefyd yn derbyn tystiolaeth arall bod lefel eich Saesneg yn ddigonol i ateb gofynion y cwrs. Mae hyn yn cynnwys:
Mewn rhai achosion mae'n bosibl y cynigir mynychu cwrs Saesneg cyn-sesiynol i fyfyrwyr yn lle cymhwyster Iaith Saesneg, neu'n ychwanegol ato.
Os byddwch am gael hyfforddiant iaith Saesneg cyn neu yn ystod eich cwrs, gellir trefnu hyn trwy ein canolfan addysgu iaith Saesneg ar y campws.
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.