Dilynwch y camau isod fel canllaw i'r broses gwneud cais am gwrs ôl-raddedig.
1. Dewiswch eich cwrs neu faes ymchwil
- Edrychwch am gwrs a addysgir neu am faes ymchwil ar y y Canfyddydd Cyrsiau
- Gwiriwch a oes dyddiad terfyn ar gyfer gwneud cais
- Sicrhewch eich bod yn bodloni'r gofynion mynediad
- Gwiriwch y ffioedd
(maent yn amrywio'n dibynnu ar y cwrs) a'r costau byw
- (Ymchwil yn unig) Cysylltwch â'r Ysgol berthnasol i drafod eich cynnig ymchwil
Sylwer bod gan y prosiectau ymchwil a gyllidir eu cyfarwyddiadau gwneud cais eu hunain a all fod yn wahanol i'r broses ôl-raddedig arferol.
2. Casglwch ddogfennau ategol
Bydd angen i chi ddarparu:
- Canlyniadau arholiadau (tystysgrifau neu adysgrifau yn Saesneg er mwyn profi eich bod yn meddu ar y cymwysterau a restrwyd ar eich ffurflen gais
- Dau ganolwr (fel arfer o leiaf un gan ddarlithydd neu athro diweddar) - llwythwch i lawr a llenwch ein ffurflen adroddiad Canolwr
- Datganiad personol
- Cynnig ymchwil (ar gyfer myfyrwyr ymchwil nad ydynt yn gwneud cais am brosiectau a restrwyd)
- Tystysgrifau Iaith Saesneg (ar gyfer ymgeiswyr nad yw'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt) - gweler ein gofynion Iaith Saesneg
Mae'n bosibl uwch lwytho dogfennau fel dogfennau Word (.doc neu .docx), PDFs neu ddelweddau Jpeg (.jpeg neu .jpg). 1,024KB yw'r maint ffeil uchaf.
Os nad oes gennych yr holl dystiolaeth sydd ei hangen ar hyn o bryd, gallwch wneud cais o hyd a llwytho eich dogfennau ategol i fyny pan fyddant ar gael.
3. Edrychwch ar opsiynau cyllido posibl
Ewch i'n tudalennau cyllido ôl-raddedig i weld beth sydd ar gael. Fel arfer ni allwch wneud cais am gyllid nes eich bod wedi derbyn cynnig i astudio, felly mae'n bwysig gwneud cais am y rhaglen a ddewiswch cyn gynted ag y bo modd er mwyn sicrhau amser am geisiadau am gyllid.
Gwnewch gais drwy SIMS: Gwasanaethau Cais Ar-lein:
Gwnewch gais ar-lein nawr
Dilynwch hynt eich cais
Ar ôl i chi gyflwyno'ch cais, anfonwn e-bost atoch gydag enw defnyddiwr a chyfrinair fel y gallwch ddilyn eich cynnydd.
Beth os na allaf wneud cais ar-lein?
Mae'n gyflym ac yn hawdd gwneud cais ar-lein, ond gallwch
wneud cais drwy'r post os oes angen.
Byddwn yn anfon e-bost a llythyr atoch yn cadarnhau'ch cynnig.
Pryd y byddaf yn derbyn penderfyniad ar fy nghais?
Bydd y rhan fwyaf o ymgeiswyr yn clywed gennym o fewn pedair wythnos, er y gall ceisiadau am raddau ymchwil gymryd yn hirach.
Cynnig diamod
Mae hyn yn golygu ein bod wedi cynnig lle i chi – llongyfarchiadau! Nawr yr unig beth y mae'n rhaid i chi ei wneud yw derbyn y cynnig.
Cynnig amodol
Mae hyn yn golygu ein bod wedi cynnig lle i chi, ond roedd rhywbeth ar goll o'ch cais – mwy na thebyg un o'ch dogfennau ategol. Bydd eich llythyr cais yn dweud yn glir pa dystiolaeth y mae angen ei darparu. Pan fydd gennym bopeth, bydd eich cynnig yn newid i Ddiamod.
Beth os nad oeddwn yn llwyddiannus?
Gallwch ofyn am adborth am eich cais.
Gallwch dderbyn eich cynnig: