Skip to content Skip to navigation menu
Mae'r rhan fwyaf o raddau ymchwil yn ei wneud yn ofynnol i chi gyflwyno cynnig ymchwil gyda'ch cais.
Os ydych yn gwneud cais ar gyfer prosiect ymchwil penodol a gafodd ei hysbysebu, mae’n ofynnol i chi gynnwys teitl a disgrifiad y prosiect yn lle cynnig.
Edrychwch ar gofnod y rhaglen ar y Canfyddydd Cyrsiau neu ar yr hysbyseb i weld a oes angen i chi ddarparu cynnig ymchwil.
Mae cynnig ymchwil yn ffurfio rhan hanfodol o’ch cais am radd ymchwil a dylid ei ddatblygu gyda'ch goruchwyliwr arfaethedig. Mae hyn er mwyn sicrhau eich bod gennych brosiect mewn golwg a bod gan yr Ysgol berthnasol yr arbenigedd angenrheidiol i ddarparu digon o oruchwyliaeth.
Mae hyd a strwythur y cynnig yn dibynnu ar yr Ysgol a’r radd ymchwil rydych yn gwneud cais amdani.
Argymhellir bod y cynnig arfaethedig yn cael ei strwythuro fel ei fod yn cynnwys y canlynol, os ydynt yn berthnasol i'ch ymchwil arfaethedig:
Ar frig eich cynnig, sicrhewch eich bod yn ysgrifennu’n glir:
Gallwch ei lwytho i fyny wedyn fel dogfen ategol i’ch cais drwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Gwneud Cais Ar-lein.
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.