Skip to content Skip to navigation menu
Mae cyllid ar gyfer eich gradd ôl-raddedig ar gael oddi wrth amrywiaeth o ffynonellau.
Mae'r Cynghorau Ymchwil yn darparu cyllid y llywodraeth ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig ac maent yn ffynhonnell fawr o gyllid ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig Caerdydd. Mae pob Cyngor Cyllido'n cefnogi maes astudiaeth gwahanol ac mae'n bosibl y bydd ganddynt weithdrefnau gwahanol ar gyfer gwneud cais a dyfarnu.
Ni yw partner arweiniol Canolfan Hyfforddi Ddoethurol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), sy’n dal grantiau bloc oddi wrth y Cynghorau Ymchwil canlynol:
Mae ein Doethuriaeth bedair blynedd mewn Niwrowyddoniaeth Integreiddiol yn cael ei chefnogi gan Wellcome Trust, darparwr mwyaf y DU o gyllid anllywodraethol ar gyfer ymchwil gwyddonol.
Yn ogystal, mae llu o sefydliadau sy’n gynnig ffynonellau eraill o gyllid ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig. Mae’n debygol na fydd y cyrsiau hyn yn talu’r costau llawn ond maent yn cynnig helpu tuag at gyfanswm y costau.
Mae llawer o ôl-raddedigion yn cael swyddi cyflogedig tra eu bod yn dilyn eu hastudiaethau.
Mae Benthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa’n fenthyciad banc ad-dalu gohiriedig rhwng £300 a £10,000 ar gael ar gyfer gradd Feistr neu gymwysterau proffesiynol. Fel arfer bydd banciau’n cymryd rhwng chwech a 12 wythnos i brosesu’ch cais felly gwnewch gais ymhell o flaen llaw.
Mae ystod o sefydliadau yn darparu cyllid i hyrwyddo cyfnewid diwylliannol a symudedd rhyngwladol mewn ymchwil ac addysg. Yn gyffredinol mae'r cyfleoedd cyllido hyn ar gyfer myfyrwyr doethurol sydd am wneud rhan o'u hastudiaethau neu'u hymchwil dramor.
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.