Skip to content Skip to navigation menu
Mae’r saith Cyngor Ymchwil yn y DU yn darparu cyllid gan y llywodraeth ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig ar gyfer myfyrwyr y DU a’r UE yn uniongyrchol i sefydliadau ymchwil. Ni roddir y cyllid hwn ar gael fel arfer i fyfyrwyr o’r tu allan i’r UE.
Mae’r Cynghorau Ymchwil yn gweinyddu eu hysgoloriaethau drwy brifysgolion sydd â hanes profedig o hyfforddiant ôl-raddedig rhagorol a wneir yng nghyd-destun ymchwil o’r radd flaenaf.
Prifysgol Caerdydd yw'r partner arweiniol yng Nghanolfan Hyfforddi Ddoethurol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), ac mae'n dal grantiau bloc ar gyfer y Cynghorau canlynol: Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC), y Cyngor Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), y Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC), y Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol (NERC), a'r Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC).
Caiff ysgoloriaethau Doethuriaeth eu rhestru yn ein Chwiliad Cyllid ac Ysgoloriaethau wrth iddynt ddod ar gael. Dilynwch ni ar Twitter neu Facebook os ydych am gael y newyddion diweddaraf am unrhyw gyfle cyllido ym Mhrifysgol Caerdydd.
Fel arfer mae dyfarniad llawn yn cynnwys costau ffioedd dysgu cartref a thâl i dalu am gostau byw.
Os ydych yn fyfyriwr y DU (at bwrpas cyfrifo ffioedd) neu'n fyfyriwr UE sydd wedi byw yn y DU am dair blynedd cyn cychwyn ar eich cwrs (gan gynnwys at bwrpasau addysgol) rydych yn gymwys am ddyfarniad llawn (h.y. ffioedd a thâl).
Mae dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais yn amrywio, felly rydym yn argymell eich bod yn ymchwilio i'ch opsiynau. Caiff ysgoloriaethau Doethuriaeth ynghyd â'u dyddiadau cau eu rhestru yn ein Chwiliad Cyllid ac Ysgoloriaethau wrth iddynt ddod ar gael.
Mae'r broses gwneud cais yn amrywio ond fel arfer bydd yn rhaid ichi wneud cais yn uniongyrchol i'r brifysgol. Caiff manylion llawn am sut i wneud cais eu rhestru yn ein Chwiliad Cyllido ac Ysgoloriaeth.
Mae gwybodaeth bellach ar gael ar wefan y Cyngor Ymchwil.
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.