Skip to content Skip to navigation menu
Mae’r AHRC yn cyllido’r rhan fwyaf o’i ysgoloriaethau ôl-raddedig drwy Bartneriaeth Grant Bloc (neu ‘BGP’), a gaiff ei ddal gan rai prifysgolion am gyfnod o 5 mlynedd. Drwy’r BGP, datganolodd yr AHRC y broses o weinyddu dyfarniadau ysgoloriaethau i’r Brifysgol. Bydd y prifysgolion hynny nad ydynt yn dal dyfarniad BGP yn gymwys i roi myfyrwyr ôl-raddedig i’r Gystadleuaeth Ysgoloriaethau.
Mae’r rhan fwyaf o ddyfarniadau AHRC yn ymrannu’n un o dair cystadleuaeth cyllido:
Mae hon yn darparu cefnogaeth am o leiaf un flwyddyn o astudio a hyd at dair blynedd o astudio llawn amser, neu rhwng dwy a phum mlynedd o astudiaeth rhan amser, yn arwain at radd Doethur. Mae dyfarniad llawn yn cynnwys ffioedd dysgu (lefel DU/UE) a grant cynnal. Bydd y grant cynnal yn bodloni lefel y Tâl Doethurol Gofynnol Cenedlaethol a osodir gan Gynghorau Ymchwil y DU – ar gyfer 2011/12, lefel y tâl llawn amser oedd £13,590 y flwyddyn.
Mae hon yn darparu cynhaliaeth i fyfyrwyr sydd yn bwriadu symud ymlaen i astudiaeth ddoethurol ac sy’n gwneud cwrs Gradd Feistr a fydd yn eu paratoi ar gyfer astudiaeth ddoethurol. Mae’n rhaid bod y cwrs yn canolbwyntio ar astudiaeth uwch a hyfforddiant ymchwil y bwriedir yn glir y bydd yn darparu sylfaen ar gyfer rhagor o ymchwil ar lefel ddoethurol. £9,490 y flwyddyn oedd lefel y tâl cynnal llawn amser ar gyfer Cystadleuaeth Gradd Feistr Paratoi Ymchwil 2011/12.
Mae hon yn darparu cynhaliaeth i fyfyrwyr sy’n gwneud Gradd Feistr neu gyrsiau Tystysgrif Ôl-raddedig. Mae’n rhaid i nodau’r cwrs ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau lefel uchel a chymwyseddau fel paratoad ar gyfer ymarfer proffesiynol mewn maes sy’n berthnasol i gynnwys y cwrs. £8,845 y flwyddyn oedd lefel y tâl cynnal llawn amser ar gyfer Cystadleuaeth Paratoi Gradd Feistr 2011/12.
Mae’r AHRC hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd cyllido penodol a chydweithredol, a all fod yn berthnasol i feysydd pynciau neu brosiectau penodol mewn sefydliadau penodol. Caiff unrhyw gyfleoedd cyllido o’r fath sydd ar gael yng Nghaerdydd eu rhestru’n unigol yn y Chwiliad Cyllido ac Ysgoloriaethau. I ddarllen rhestr lawn o gyfleoedd cyllido AHRC posibl, ewch i wefan AHRC.
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch â AHRCQueries@caerdydd.ac.uk
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.