Skip to content Skip to navigation menu
Mae dyfarniadau llawn (ffioedd a thâl cynhaliaeth) ar agor i bob Dinesydd Prydeinig a myfyrwyr yr UE sy'n gallu bodloni'r gofynion o ran preswylio yn y DU.
I fod yn gymwys ar gyfer dyfarniad llawn, mae'n rhaid bod Dinasyddion yr UE wedi bod yn y DU am o leiaf tair blynedd cyn i'r cwrs y maent yn ceisio cyllid ar ei gyfer gychwyn, gan gynnwys at bwrpasau addysg llawn amser. Mae Dinasyddion yr UE nad ydynt yn bodloni'r gofyniad preswylio hwn yn gymwys am ddyfarniad ffioedd yn unig, cyhyd â'u bod yn preswylio fel arfer yn yr UE am o leiaf 3 blynedd cyn cychwyn ar eu rhaglen astudio arfaethedig.
Mae'n rhaid bod ymgeiswyr wedi ennill gradd israddedig oddi wrth brifysgol gydnabyddedig, neu fod yn fyfyriwr israddedig sy'n disgwyl graddio cyn 31 Gorffennaf 2012. Dylai'r sawl sy'n gwneud cais am ddyfarniad doethur feddu ar Radd Meistr, neu'n astudio ar ei chyfer.
Anfonwch bob ymholiad at AHRCQueries@caerdydd.ac.uk.
I gael gwybodaeth am gyfleoedd cyllido ôl-raddedig eraill, gweler ein cyfleuster Chwiliad Cyllid ac Ysgoloriaethau.
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch â AHRCQueries@caerdydd.ac.uk
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.