Gwarentir lle i un person ym mhreswylfeydd y Brifysgol i bob myfyrwyr ôl-raddedig nad yw’n dod o’r DU os bydd yn cyflwyno cais ar-lein ac yn gwneud rhagdaliad yn unol â’r dyddiad cau perthnasol ar gyfer y sesiwn honno.
Yn anffodus, nid ydym yn gallu gwarantu lleoedd ym mhreswylfeydd y Brifysgol i ôl-raddedigion o’r DU. I gael rhagor o wybodaeth ar warantu preswylfeydd, yr ystod o breswylfeydd sydd ar gael a’r ffioedd preswyl cysylltiedig, ewch i
wefan y Preswylfeydd.
Darllenwch ragor am y gwahanol opsiynau.
Oes. Mae Caerdydd yn ffodus fod ganddi lawer o lety preifat sydd ar gael i fyfyrwyr, yn enwedig yn ardaloedd Cathays a'r Rhath y ddinas. Mae ein Swyddfa Breswylfeydd yn dosbarthu rhestr o lety preifat i fyfyrwyr ôl-raddedig ym mis Awst bob blwyddyn ac mae Undeb y Myfyrwyr yn rhedeg ei hasiantaeth osod ei hun. In addition, there are a few private halls of residence across Cardiff.
Darllenwch ragor am y gwahanol opsiynau llety.
Dewch i’n digwyddiad Chwilio am Dŷ.
Mae Caerdydd yn adnabyddus fel dinas fforddiadwy ac mae ganddi brisiau rhent cystadleuol o’i chymharu â llawer o ddinasoedd prifysgol eraill. Fodd bynnag, gall cost byw amrywio’n sylweddol yn dibynnu ar y math o lety a’r ardal y dewiswch fyw ynddi.
I gael rhagor o fanylion, ewch i'n tudalen costau byw.
Os ydych yn fyfyriwr ôl-raddedig llawn amser, nid ydych yn atebol i dalu’r Dreth Gyngor yn ystod eich astudiaethau. Mae myfyrwyr rhan amser yn atebol am y Dreth Gyngor o hyd.
Os ydych yn mynd i fod yn fyfyriwr ôl-raddedig llawn amser, byddwch yn derbyn tystysgrif eithrio rhag y Dreth Gyngor yn awtomatig oddi wrth y Brifysgol. Gallwch hefyd ofyn am y dystysgrif yn eich Cofnod Myfyriwr.
Fel myfyriwr PhD, pan fydd eich cyfnod arferol o gofrestriad llawn amser wedi dod i ben ac rydych yn y cyfnod ysgrifennu’ch PhD, nid ydych yn cael eich ystyried i fod yn fyfyriwr ac felly nid ydych yn gymwys i eithriad y Dreth Gyngor.
Mae gan y Brifysgol ei Chanolfan Gofal Dydd ei hun, sydd wedi’i lleoli’n ganolog yn 43-45 Plas-y-Parc (bron gyferbyn â Phrif Adeilad y Brifysgol). Mae’n darparu cyfleusterau i blant myfyrwyr a staff Prifysgol Caerdydd, gyda phlant myfyrwyr llawn amser yn cael y flaenoriaeth
Mae Prifysgol Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn cefnogi ystod enfawr o weithgareddau y gall unrhyw fyfyriwr ym mhrifysgol Caerdydd gymryd rhan ynddynt, gan gynnwys hirfaith o gymdeithasau yn ogystal â chyfryngau myfyrwyr arobryn a chyfleoedd gwirfoddoli.
Mae Undeb y Myfyrwyr yn trefnu Pythefnos y Glas, gan gyflwyno popeth sydd ar gael i chi. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ein
gwefan.
Lle da i gychwyn bob blwyddyn yw’r Pythefnos Croeso i Ôl-raddedigion, a drefnir gan Ganolfan y Graddedigion ym mis Medi bob blwyddyn
Yn ogystal â'r digwyddiadau cyflwyniadol hyn, mae Canolfan y Graddedigion yn cynnal gwahanol ddigwyddiadau cymdeithasol drwy gydol y flwyddyn, gyda’r nod o helpu myfyrwyr i gwrdd â myfyrwyr eraill y tu allan i’w Hysgol academaidd.
Mae Canolfan y Graddedigion yn cefnogi ein Hysgolion academaidd drwy gynnig adnoddau ychwanegol o ofod, cyfleusterau astudio a chymdeithasol, gweithdai a digwyddiadau i fyfyrwyr ôl-raddedig. Yn fwy nodedig, mae’r digwyddiadau hyn yn cynnwys rhaglen sefydlu ar ddechrau pob blwyddyn academaidd i helpu myfyrwyr newydd i ddod i adnabod y campws a’r ddinas, a’r gynhadledd ‘Man Cychwyn’.