Mae astudiaeth ôl-raddedig yn golygu gwaith caled ac ymrwymiad, ond mae llwyddiant yn dod ag ystod o fuddion - rhai'n bersonol, rhai'n broffesiynol a rhai'n ariannol. Ymhlith y rhain y mae: hyfforddiant galwedigaethol ar gyfer gyrfa broffesiynol, e.e. Tystysgrif Addysg i Raddedigion; gwell rhagolygon gyrfaol a dyrchafiad; y cyfle i newid cwys yrfaol; datblygiad deallusol a mynediad at wasanaethau a chyfleusterau cefnogi rhagorol y Brifysgol, gan gynnwys Canolfan y Graddedigion.
Darganfyddwch ragor am fuddion gwneud Gradd Ymchwil.
Yn aml iawn gwneir graddau ymchwil gyda golwg ar yrfa academaidd neu mewn ymchwil. Mae gan raddau ôl-raddedig a addysgir, tystysgrifau a diplomâu ystod eang o nodau galwedigaethol a gallant gyfuno themâu o nifer o ddisgyblaethau.
Cyn cychwyn ar eich chwiliad am raglen astudio mae’n bosibl y byddai’n ddefnyddiol ichi ddeall y gwahaniaethau rhwng gradd a addysgir a gradd ymchwil
Graddau a Addysgir
Mae gradd a addysgir yn rhaglen astudio strwythuredig sy’n cynnwys nifer o fodiwlau mewn pynciau arbenigol sy’n gallu paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa broffesiynol benodol.
Dylunnir graddau ôl-raddedig a addysgir i ddatblygu gwybodaeth neu dechnegau mewn pynciau arbenigol a astudiwyd yn fwy cyffredinol o'r blaen.
Er bod graddau a addysgir wedi’u strwythuro, mae’n bosibl y bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ddewis rhwng modiwlau gwahanol er mwyn canolbwyntio ar feysydd penodol o ddiddordeb.
Mae rhai rhaglenni graddau meistr yn gweithredu fel ‘cyrsiau trosglwyddo’, yn caniatáu i fyfyrwyr newid neu ddatblygu eu maes arbenigedd o’r un a ymgymerwyd â hi ar lefel israddedig.
Yn aml bydd ymgymryd â chwrs yn golygu mynd i ddarlithoedd a seminarau ac o bosibl gweithio mewn labordy os ydych yn ymgymryd â chwrs sy’n seiliedig ar wyddoniaeth.
Fel arfer mae’r gwaith asesu'n seiliedig ar arholiadau a thrwy aseiniadau ysgrifenedig ar ddiwedd pob modiwl. I ennill gradd Meistr, mae disgwyl yn aml i fyfyrwyr gwblhau traethawd estynedig.
Mae graddau a addysgir fel arfer yn para am 1 flwyddyn yn llawn amser, neu am 2 flynedd neu'n hirach os ydych yn astudio’n rhan amser.
Diplomau/Tystysgrifau Ôl-raddedig a Addysgir
Mae cyrsiau Tystysgrif a Diploma’n darparu hyfforddiant galwedigaethol, academaidd ac ymarferol ac mae hefyd yn bosibl y byddant yn eich eithrio’n rhannol neu’n llwyr rhag arholiadau proffesiynol. Mae rhai cyrsiau’n hanfodol ar gyfer mynediad i broffesiwn, e.e. Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) mewn perthynas ag addysgu.
Mae myfyrwyr sy’n cwblhau eu hastudiaethau ar lefel Diploma neu Dystysgrif weithiau'n teimlo eu bod yn gallu symud ymlaen i astudio ar lefel gradd Meistr.
Mae hefyd yn bosibl dyfarnu Diplomâu a Thystysgrifau i’r sawl sy’n dechrau ar radd Feistr ond nid ydynt yn ei orffen i gyd, er enghraifft, drwy gwblhau'r unedau a addysgir ond nid y traethawd estynedig.
Graddau Ymchwil
Mae gradd ymchwil yn darparu cyfle i fyfyrwyr ymchwilio i faes neu dopig penodol yn drylwyr.
Mae graddau ymchwil yn canolbwyntio’n fwy ar astudiaeth annibynnol nag yw graddau a addysgir. Yn wahanol i fyfyrwyr ar raglenni a addysgir, mae disgwyl i fyfyrwyr ymchwil nodi’u hanghenion astudio gyda chymorth eu goruchwylwyr, gan aml yn ddechrau eu taith ymchwil gydag adolygiad o lenyddiaeth.
Nid yw rhai graddau ymchwil yn cynnwys elfen a addysgir, yn enwedig graddau Meistr drwy Ymchwil neu Ddoethuriaethau Integredig. Ar y cyfan bydd y modiwlau a addysgir yn canolbwyntio ar sut y cynhelir ymchwil yn y maes pwnc, ond mae’n bosibl y bydd rhai’n ymdrin â gwybodaeth fanylach am y pwnc.
Darperir arweiniad a chefnogaeth i fyfyrwyr ymchwil gan eu goruchwylwyr a’r cyfleusterau i gynnal eu hymchwil. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae gan fyfyrwyr ryddid dros sut y maent yn archwilio ac yn cynnal eu hymchwil. Dylai eu hymchwil arwain at ddarn unigryw o waith sy'n cynnwys gwybodaeth newydd yn y maes pwnc o'u dewis.
Seilir asesiad ar draethawd ymchwil terfynol myfyriwr ac arholiad llafar (viva-voce).
Mae graddau ymchwil yn amrywio o ran eu hyd ac am faint o amser y maent yn para. Mae graddau MRes ac MPhil yn para am 1 flwyddyn yn llawn amser neu am 2 flynedd neu’n hirach yn rhan amser. Mae PhDs a doethuriaethau eraill yn para am o leiaf 3 blynedd llawn amser, gyda PhDs rhan amser yn cymryd yn hirach.
Mae llawer o bobl yn ystyried cymryd gradd ôl-raddedig o fewn blwyddyn neu ddwy i raddio.
Un strategaeth arall y mae'n bosibl ei hystyried yw cymryd cymhwyster ôl-raddedig gyda chymeradwyaeth a chefnogaeth ariannol cyflogwr a fydd yn cymryd i ystyriaeth y buddion i'r sefydliad yn sgil yr hyfforddiant ôl-raddedig a gewch.
Mae hefyd yn bosibl yr hoffech ystyried gradd ôl-raddedig ran amser, tra eich bod yn gweithio, ar gyfer eich datblygiad personol a phroffesiynol. Mae’n bosibl y byddwch yn penderfynu dilyn llwybr gyrfa newydd ac yn ei chefnogi drwy gymhwyster ôl-raddedig.
Mae’r llwybr a ddewiswch yn dibynnu ar eich sefyllfa a’ch nodau. Os nad ydych yn sicr a yw astudiaeth ôl-raddedig yn addas i chi ar hyn o bryd, porwch drwy'r safle i gael syniad gwell o'r hyn a ddisgwylir oddi wrthych fel myfyriwr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd - a'r hyn y gallwch ei ddisgwyl am hynny.