Skip to content Skip to navigation menu
Aelodau o'n Hathrofa Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy
Rydym wedi ymrwymo i fod yn brifysgol o'r radd flaenaf a arweinir gan ymchwil lle mae themâu rhyngddisgyblaethol yn hwyluso ymchwil a rhagoriaeth addysgu.
Mae llawer o heriau ymchwil heddiw yn gofyn am dimau rhyngddisgyblaethol gyda sylfeini cryf mewn galluoedd ymchwil sy'n seiliedig ar ddisgyblaeth. Daw'r rhan fwyaf o weithgareddau rhyngddisgyblaethol o'r gwaelod i fyny ac fe'u hysgogir gan gymhlethdod yr heriau ymchwilio sydd angen llawer o ddisgyblaethau'n gweithio ar y cyd i ddatrys problem. Cydnabyddir buddion ac angenrheidrwydd ymchwil rhyngddisgyblaethol gan y Llywodraeth a chaiff ei gefnogi gan Gynghorau Ymchwil y DU. Fodd bynnag, mae perfformio ymchwil rhyngddisgyblaethol (IDR) yn gofyn am arweinyddiaeth dalentog, amser cychwyn, cyfathrebu agored a pharhaus, gwobrau a chymhellion priodol ac yn bennaf oll parodrwydd i gydweithio a rhannu syniadau.
Mae'r diagram hwn yn dangos ehangder ymchwil yng Nghaerdydd
Llwythwch y diagram hwn i lawr fel PDF
Yn 2010, cawsom dros £15m ar dros 50 o grantiau rhyngddisgyblaethol.
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.