Skip to content Skip to navigation menu
Cynhelir ymchwil ym mhob Ysgol o’r Brifysgol a dangosodd yr Ymarfer Asesu Ymchwil Diweddaraf fod ymchwil o’r radd flaenaf yn cael ei gynnal ym mhob disgyblaeth. O’r 34 o feysydd ymchwil a gyflwynwyd, mae Caerdydd yn y 5 uchaf mewn 14 maes gan gynnwys Busnes, Peirianneg Sifil, Cymdeithaseg, a Chynllunio Tref a Dinas; ac yn y 10 uchaf mewn 11 maes ymchwil arall gan gynnwys Peirianneg Gyffredinol a Mecanyddol, y Gyfraith a Mathemateg.
Dyfarnwyd pedair Gwobr Pen-blwydd Coroni'r Frenhines, sy’n cydnabod rhagoriaeth o’r radd flaenaf ym Mhrifysgolion y DU.
Mae ymchwil o’r fath yn denu grantiau a buddsoddiadau mawr, staff academaidd blaenllaw o bedwar ban byd, ac yn denu sylw a chydnabyddiaeth y gymuned fusnes i’r Brifysgol. Dros y tair blynedd ddiwethaf, ar gyfartaledd dyfarnwyd £100m mewn grantiau ymchwil a chontractau, gan gynnwys buddsoddiadau mawr gan gwmnïau a chorfforaethau sy’n fyd enwog.
Mae Prifysgol Caerdydd yn falch o fod â dau enillydd Llawryfog wobr Nobel, sef Yr Athro Syr Martin Evans FRS a'r Athro Robert Huber, ymhlith ei staff academaidd ac ymchwil byd-enwog. Rydym yr un mor falch o fod â Chymrodorion y Gymdeithas Frenhinol, yr Academi Frenhinol Peirianneg, a'r Academi Brydeinig yn ogystal ag Academyddion yr Academi Gwyddorau Cymdeithasol yn ein Prifysgol.
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.