Skip to content Skip to navigation menu
Mae cyfleoedd i astudio’n rhan-amser ar gael o fewn yr Ysgol Optometreg
Mae cyfleoedd i astudio’n rhan-amser ym mron pob maes ymchwil. Maent y ddelfrydol os oes arnoch angen cydbwyso astudio gyda chyflogaeth neu ymrwymiadau teuluol - maent yn rhoi mwy o hyblygrwydd a llwyth gwaith llai dwys a’r holl fuddion a chymorth mae myfyrwyr amser llawn yn eu cael.
Cysylltwch â’r ysgol academaidd berthnasol i drafod sut y gellir strwythuro’ch gradd ymchwil o gwmpas eich sefyllfa unigol.
Fel arfer mae cyrsiau rhan-amser ddwywaith hyd eu cyfwerth amser llawn. Gwiriwch ein Canfyddydd Cyrsiau ar gyfer cyrsiau unigol.
Byddwch yn cael yr un buddion a chymorth â myfyrwyr amser llawn. Gweler y dudalen Cynnal eich Ymchwil i gael manylion llawn.
Rhennir y ffioedd yn gyfartal ar hyd eich cwrs. Mae ein dalennau ffioedd dysgu yn cynnwys dadansoddiad.
"Roedd bod yn gallu adrodd canlyniadau sylweddol ac ymestyn y modelau damcaniaethol i gynnwys fy nghanfyddiadau’n wefr fawr imi ac yn gwneud fy ngwaith yn hollol werth chweil! Daeth y peth gorau oll lai na dwy flynedd wedyn, pan roeddwn i’n llwyddiannus yn fy ymdrech cyntaf i gael dyrchafiad i Uwch Ddarlithydd. At hynny, mae dwy o’m herthyglau a oedd yn dibynnu’n uniongyrchol ar fy ngwaith ar gyfer y Ddoethuriaeth wedi cael eu derbyn gan gylchgronau, mae’r wasg wedi ymdrin â’m gwaith, ac rwyf wedi cael y cyfle i fynychu a chyfrannu at seminarau diwydiannol. Felly oedd e werth y gwaith caled? Oedd, yn bendant!"
Fiona Davies, cyn fyfyrwraig Doethuriaeth
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.