Skip to content Skip to navigation menu
Cameron HudsonDoethuriaeth, Ysgol Optometreg
"Ar ôl graddio o’r ysgol yn 2008, roedd fy antur gyntaf yn golygu trefnu a chwblhau taith elusennol ac ymchwil i Begwn y De. Ers hynny rwyf wedi bod yn rheolwr gwasanaethau proffesiynol gydag un o ddarparwyr uchaf y DU o lawdriniaeth blygiannol ac ar hyn o bryd fi yw Pennaeth Materion Proffesiynol, y DU ac Iwerddon, i un o gwmnïau mwyaf blaenllaw'r byd ym maes gweithgynhyrchu cynhyrchion llawfeddygol, fferyllol a gofal golwg. Rwyf wedi bod yn ffodus i gynnal perthynas waith dda gyda’r ysgol tan nawr yn fy swydd gyfredol ac rydym yn gweithio ar hyn o bryd ar sawl prosiect cydweithredo.
"Heb os nac oni bai bu’r pedair blynedd o astudiaeth ôl-raddedig ymhlith y rhai mwyaf defnyddiol, pleserus a heriol yn fy ngyrfa hyd heddiw. At hyn, mae’r profiadau a enillwyd yn ystod y cyfnod hwn wedi agor drysau a chreu cyfleoedd a fyddai wedi bod yn amhosibl cyn hynny."
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.