Skip to content Skip to navigation menu
Dyfernir gradd ddoethur am ymchwil gwreiddiol sy’n ymestyn ffiniau gwybodaeth neu ymarfer o fewn disgyblaeth benodol.
Fel arfer mae’n golygu tair blynedd o astudio llawn amser, mae Doethuriaeth yn gymhwyster o safon uchel iawn a gydnabyddir ledled y byd.
Mae disgwyl i fyfyrwyr Doethuriaeth archwilio topig a gwneud cyfraniad gwreiddiol i gorff y wybodaeth yn ymwneud ag ef. Fel arfer maent yn cofrestru am dair i bedair blynedd (pump i chwe blynedd yn rhan-amser) a byddant yn cynhyrchu traethawd estynedig sy’n cynnwys rhwng 30,000 ac 80,000 o eiriau.
Yn fwyfwy mae rhaglenni Doethuriaeth yn cynnwys elfennau a addysgir yn ogystal â sgiliau ymchwil a gweithgareddau datblygu personol. Mae goruchwylwyr yn darparu cefnogaeth a chanllawiau i helpu myfyrwyr i gyrraedd eu potensial ac yn eu cynorthwyo i gyflwyno’u traethawd estynedig.
Mae gan bob un o’n Hysgolion Academaidd gyfleoedd Doethuriaeth. Defnyddiwch ein Canfyddydd Cyrsiau i chwilio am faes ymchwil penodol. Neu fel arall, os nad ydych yn barod am raglen Doethuriaeth lawn, rydym yn cynnig graddau Meistr drwy Ymchwil i baratoi myfyrwyr ar gyfer astudiaeth Doethuriaeth.
Mae’r Ddoethuriaeth drwy ymarfer yn fwy cyffredin yn y celfyddydau cain/creadigol, pan fydd gwaith creadigol yn ffurfio rhan sylweddol o’r ymchwiliad deallusol.
Mae’r traethawd estynedig yn cynnwys dadansoddiad neu werthusiad sylweddol o’r broses greadigol, y prosiect neu'r perfformiad.
Mae Ysgol Gerdd Prifysgol Caerdydd yn cynnig Doethuriaeth drwy Berfformiad neu Ddoethuriaeth drwy Gyfansoddiad.
Wedi’i dylunio i’r sawl sydd eisoes wedi cronni gwaith cyhoeddedig addas yn dangos cyfeiriad ymchwil cydlynol (yr un faint â Doethuriaeth arferol).
Mae myfyrwyr yn darparu sylwadaeth feirniadol o 5,000 - 10,000 o eiriau yn gwerthuso’u maes ac yn dangos y cyfraniad gwreiddiol y maent wedi’i wneud i ddysgu .
I fod yn gymwys, mae’n rhaid eich bod wedi:
Os ydych yn bodloni un o'r meini prawf hyn ac mae gennych ddiddordeb mewn darganfod rhagor, cysylltwch â’ch Ysgol Academaidd.
Mae Doethuriaeth integredig yn cynnwys o leiaf un flwyddyn o sgiliau ymchwil strwythuredig a hyfforddiant sy’n benodol i’r pwnc. Mae'r rhan fwyaf yn digwydd ym mlwyddyn 1 ond gall barhau mewn blynyddoedd dilynol.
Mae’n darparu sylfaen drwyadl mewn dulliau ymchwil a gwybodaeth ychwanegol sy’n benodol i’r pwnc fel paratoad i’ch ymchwil.
Rydym yn cynnig y Doethuriaethau Integredig canlynol:
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.