Skip to content Skip to navigation menu
Yn y gwyddorau mewn labordy, mae myfyrwyr ymchwil fel arfer yn cael eu recriwtio i brosiectau ymchwil penodol. Mae topig y myfyriwr yn cyd-fynd â rhaglen ymchwil y goruchwyliwr ac mae’r myfyriwr yn mabwysiadu rôl sy'n debyg i brentis.
Mae gofyn i’r myfyriwr wneud cyfraniad gwreiddiol i'r ymchwil er mwyn i Ddoethuriaeth gael ei dyfarnu iddo (er ei bod yn anorfod y bydd terfynau i greadigrwydd ymchwil y gall y myfyriwr ei ddatblygu). Bydd y myfyriwr, fodd bynnag, yn elwa ar weithio mewn labordai ochr yn ochr ag ymchwilwyr sy'n flaenllaw yn eu maes.
Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser mewn amgylchedd labordy, gyda’r gweddill wedi’i rhannu rhwng ymchwil ar bapur (edrych ar erthyglau, adolygu'r maes presennol), mewn cyfarfodydd ar gynnydd a seminarau grŵp achlysurol.
Er nad yw’n aml yn gysylltiedig yn uniongyrchol â phrosiect unigol myfyriwr, mae'r gweithgareddau hyn yn ffordd dda o ddysgu am brosiectau ymchwil eraill sy'n digwydd yn yr ysgol. Mae’n fwy arferol i ymchwil mewn labordy ddilyn cynllun penodol, ond bydd hyn yn dibynnu ar y prosiect a cham ymchwil myfyriwr.
Mae llawer o fyfyrwyr yn ymgymryd ag ymchwil ar brosiect sydd eisoes yn bodoli, wedi’i drefnu a’i hysbysebu (ac yn aml wedi’i ariannu) gan yr adran. Yn nodweddiadol, bydd yn brosiect clir iawn a ddylai arwain at gyhoeddiad o ansawdd rhesymol, os caiff ei orffen yn llwyddiannus,
Dylai fod gan y prosiect hwn gwestiynau, nodau a chanlyniadau clir, sy’n golygu y bydd myfyriwr yn glir beth yw’r targed a’r hyn y mae angen ei wneud i’w gyrraedd. Mae’n debygol y bydd y targedau hyn yn arwain y cynnydd, gyda myfyriwr yn gweithio gyda’i oruchwyliwr er mwyn datblygu cynllun ymchwil gwaith a fydd yn trefnu amser myfyriwr er mwyn eu cyrraedd yn llwyddiannus.
Gweler ein tudalen Goruchwyliwr.
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.