Skip to content Skip to navigation menu
Mae Celtic Technologies yn Ymgynghoriaeth Amgylcheddol yng Nghaerdydd sy’n arbenigo mewn tir llygredig, yn enwedig gwaith Asesu Risgiau ac Adfer. Mae’n cyflogi tua 60 o bobl a chafodd cysylltiadau agos gydag Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr Prifysgol Caerdydd dros flynyddoedd lawer.
"Nid yn unig y mae ganddynt y galluoedd sylfaenol rydym yn chwilio amdanynt – sgiliau cyfathrebu da, yn gweithio’n dda mewn tîm, parodrwydd i barhau i ddysgu wrth weithio – ond gallant hefyd gysylltu eu hastudiaethau â'r byd gwaith go iawn."
Barry Ellis, Cyfarwyddwr Technegol
Gwnaeth mwy na 10 myfyriwr ôl-raddedig a gyflogwyd o'r cwrs MSc mewn Daeareg Amgylcheddol Gymhwysol argraff dda iawn ar y cwmni.
Mae rhan fwyaf y myfyrwyr ôl-raddedig a gyflogir gan y cwmni wedi ymgymryd â’u prosiect ymarferol ar gyfer eu traethawd estynedig gyda Celtic Technologies. "Mae’n gyfle rhagorol i weld a ydynt yn hoffi ein gwaith ac a ydym yn eu hoffi nhw – mae’n broses ddwy ffordd mewn gwirionedd".
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.