Skip to content Skip to navigation menu
Ariadni KlonariAriadni KlonariMSc mewn Rheoli Adnoddau Dynol
"Roedd fy mhenderfyniad i ddilyn gradd meistr mewn Rheoli Adnoddau Dynol ym Mhrifysgol Caerdydd yn seiliedig ar fy niddordeb angerddol mewn Adnoddau Dynol a chafodd ei atgyfnerthu gan y safonau rhagorol o ran ymchwil ac addysgu yn Ysgol Fusnes Caerdydd.
"Gwnaeth strwythur y cwrs, agweddau meddwl agored yr ysgolheigion parod eu cymwynas, yn ogystal ag ystod y modiwlau AD a astudiais i, ddarparu dealltwriaeth o'r heriau a chysylltiadau cyflogaeth a rheolaeth adnoddau dynol y mae staff yn eu hwynebu imi, a hefyd y sgiliau beirniadol a threfniadol sy'n cyfrannu at fy ngyrfa ym maes Adnoddau Dynol.
"Roedd lefel arbenigedd a gwybodaeth yr ymgynghorwyr gyrfaoedd ym Mhrifysgol Caerdydd yn amhrisiadwy ac wedi cyfrannu'n fawr at fy ymdrech i gael swydd yn y Deyrnas Unedig. Roedden nhw wedi fy helpu gyda chyfnodau fy nghais, fy nghyfweliad a'r ganolfan asesu, ac roeddwn i'n llwyddiannus wrth ennill swydd fel person graddedig mewn adnoddau dynol gyda Nestlé yn dilyn fy nghwrs."
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.