Skip to content Skip to navigation menu
Mae myfyrwyr yn cwrdd â'u tiwtor personol yn rheolaidd
Mae pob myfyriwr yn cael ei baru ag aelod academaidd o’r staff o fewn eu Hysgol gartref sy’n gwasanaethu fel eu tiwtor personol.
Bydd eich tiwtor personol am eich gweld yn rheolaidd er mwyn trafod eich astudiaethau, i fonitro cynnydd ac i ddarparu adborth.
Os oes gennych broblem bersonol, mae’n bosibl y byddant yn gallu cynnig cyngor neu, os yw’n briodol, eich rhoi mewn cysylltiad â chynghorwyr proffesiynol yn y Brifysgol neu yn Undeb y Myfyrwyr.
Boed yn broblem academaidd neu bersonol, bydd eich tiwtor yn wrandäwr cydymdeimladol sy’n trin eich problemau’n ddifrifol ac â disgresiwn.
Gall myfyrwyr Cymraeg ofyn am gael tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg.
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.