Skip to content Skip to navigation menu
Rydym yn croesawu ymweliadau gan ddarpar ôl-raddedigion drwy gydol y flwyddyn.
Canllaw Safle [PDF] Taith hunan dywysedig [PDF]
Disgwylir cynnal ein Diwrnod Agored nesaf ar gyfer ôl-raddedigion ddiwedd mis Tachwedd 2013.
Mae rhai o’n Hysgolion academaidd hefyd yn cynnal eu Diwrnodau Agored eu hunain ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig – neu yn trefnu cwrdd â darpar ôl-raddedigion i drafod dewisiadau.
Gall y Swyddfa Recriwtio Ôl-raddedig drefnu taith gerdded dywysedig o brif ardal y campws ym Mharc Cathays. Gellir trefnu’r teithiau hyn yn ôl eich cynlluniau chi ar gyfer yr ymweliad, yn amodol ar argaeledd staff. Cysylltwch â ni os hoffech daith dywysedig o gwmpas y campws.
Os hoffech edrych o gwmpas campws Parc Cathays y Brifysgol ar adeg a chyflymdra sy’n addas i chi, lawrlwythwch ein taith hunan dywysedig [PDF].
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.