Skip to content Skip to navigation menu
Byddwn ni’n ceisio derbyn myfyrwyr y gallai eu hamrywiaeth o gymwysterau a chyflawniadau cyn dod i fyd Addysg Uwch amlygu eu potensial i elwa o’n dysgu a’n haddysgu dan arweiniad ymchwil. Bydd angen i chi fodloni’r tiwtor derbyn perthnasol eich bod chi wedi bodloni’r meini prawf academaidd ac anacademaidd sy’n ofynnol i chi gael eich derbyn i’r rhaglen astudio.
Bydd ein cyfleuster ar-lein i Chwilio am Gyrsiau a’n Prosbectws Israddedigion yn rhoi trosolwg bras i chi o ofynion mynediad a chynigion nodweddiadol rhaglenni gradd penodol. Er hynny, bydd pob un o’n hysgolion academaidd yn cyhoeddi eu Meini Prawf Derbyn ei hun, ac os ydych chi’n gwneud cais i ddilyn rhaglen gydanrhydedd, y peth doethaf i chi ei wneud fydd cymharu meini prawf y ddwy Ysgol. Yn achos rhai rhaglenni galwedigaethol – gan gynnwys MBBCh Meddygaeth (A100) a BDS Deintyddiaeth (A200), sydd â gofynion mynediad penodol neu fanwl iawn, caiff y Meini Prawf Derbyn eu cyhoeddi ar lefel y rhaglen unigol.
I gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad ynghylch polisïau a gweithdrefnau cyffredinol y Brifysgol o ran derbyn myfyrwyr, cliciwch yma.
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.
Cip olwg ar y prosbectws