Skip to content Skip to navigation menu
Bydd y wybodaeth hon yn cynorthwyo ymgeiswyr o ran asesu p’un a oes ganddynt y sgiliau, y rhinweddau a’r cymwysterau y mae Ysgol y Gymraeg Caerdydd wedi’u hamlygu fel rhai pwysig os bydd myfyrwyr am ddilyn ei rhaglenni astudio israddedig. Mae hefyd yn crynhoi’r broses y mae’r Ysgol yn ei defnyddio ar gyfer dethol myfyrwyr a gwneud cynigion, fel bod ymgeiswyr yn deall sut mae’r Ysgol yn ystyried ei cheisiadau.
Pob rhaglen Gymraeg i israddedigion, gan gynnwys dethol ar gyfer elfen Gymraeg rhaglenni cyd-anrhydedd.
Mae Cymraeg yn gwrs cystadleuol a bydd rhyw 110 o geisiadau am bob 35 o leoedd bob blwyddyn.
Gweithdrefnau Dethol yr Ysgol
Gofynion Mynediad
Cyfle Cyfartal
Trosglwyddo
Cynhelir Diwrnod Agored y Brifysgol ym mis Ebrill bob blwyddyn ac mae’n cynnig y cyfle i ymweld â phob ysgol academaidd yn ogystal â’r neuaddau preswyl, Undeb y Myfyrwyr a’r cyfleusterau chwaraeon. Gweler ein tudalen we ar y Diwrnod Agored am ragor o fanylion.
Caiff holl ymgeiswyr yr Ysgol eu gwahodd i Ddiwrnod Ymweld UCAS er mwyn trafod eu cais gyda staff ac i weld yr Ysgol a’i chyfleusterau.
Mae’r Brifysgol wedi cytuno ar weithdrefnau ar gyfer ymdrin â cheisiadau am adborth a amlinellir yn y Fframwaith Derbyn:
Y Weithdrefn Cwynion ac Apeliadau ar gyfer Ymgeiswyr [52.5 Kb]
E-bost: cymraeg@caerdydd.ac.uk Ffôn: +44 (0)29 208 74843Estyniad: 74843Ffacs: +44 (0)29 208 74604
Cyfeiriad: Ysgol y GymraegAdeilad y DyniaethauRhodfa ColumCaerdydd, CymruCF10 3EU
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.
Cip olwg ar y prosbectws