Skip to content Skip to navigation menu
Gan fod Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i ehangu mynediad ac yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr o bob cefndir, mae hi'n rhagbrofi model cyd-destunol o dderbyn myfyrwyr er mwyn cynyddu dealltwriaeth y Tiwtoriaid Derbyn o gefndir cymdeithasol ac addysgol yr ymgeiswyr. Diben y model yw caniatáu i Diwtoriaid Derbyn asesu potensial yr ymgeiswyr i lwyddo ym Mhrifysgol Caerdydd yng nghyd-destun y rhwystrau y gallan nhw fod wedi dod ar eu traws.
Yn achos myfyrwyr newydd 2012, mae'r ysgolion academaidd isod wrthi'n rhagbrofi defnyddio data cyd-destunol ar gyfer gwahanol agweddau ar y broses dderbyn:
Gall y model sydd wedi'i fabwysiadu i'w weithredu'n llawn ar gyfer myfyrwyr newydd 2013 gynnwys gwelliannau y gwelwyd yn ystod y cyfnod rhagbrofol eu bod yn ddymunol, ond fe gân nhw eu seilio ar yr un egwyddorion creiddiol. Mae'r model yn cynnwys adnabod pa ymgeiswyr unigol y dylid rhoi 'ystyriaeth ychwanegol' iddyn nhw ar sail data dibynadwy.
Bydd amryw o egwyddorion yn llywio'r ffordd y bydd y Brifysgol yn defnyddio'r data cyd-destunol.
Caiff data cyd-destunol eu cymhwyso at bob ymgeisydd sy'n byw yn y DU (yn ôl statws eu ffi) ac sy'n gwneud cais i ddilyn rhaglenni israddedig amser-llawn, ond nid at ymgeiswyr sy'n byw yn yr UE nac at ymgeiswyr sydd eisoes wedi cwblhau gradd gyntaf. Gellir gweld rhagor o wybodaeth am gwmpas y model o dderbyn cyd-destunol.
Mae'r Brifysgol yn ceisio lleddfu anfantais addysgol, anfantais economaidd-gymdeithasol ac amgylchiadau gwael unigolion, gan gynnwys amser a dreuliwyd mewn gofal. I ganfod pa ymgeiswyr sydd wedi wynebu rhwystrau mawr rhag cyfranogi mewn addysg uwch, mae model derbyn cyd-destunol y Brifysgol yn defnyddio pum dangosydd i asesu a yw ymgeiswyr yn gymwys i fod yn destun ystyriaeth ychwanegol. Er hynny, bydd gofyn i bob ymgeisydd ddal i fodloni'r meini prawf academaidd ac anacademaidd safonol ar gyfer eu dewis o raglen gradd. Nid Prifysgol Caerdydd sy'n cynhyrchu'r data cyd-destunol a gaiff eu hystyried fel rhan o'r broses hon am mai o ffynonellau annibynnol, sef UCAS, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE), Llywodraeth Cymru ac ACORN y daw'r data hynny.Dyma'r pum dangosydd:
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am y dangosyddion hynny a'r rhesymeg dros eu defnyddio.
Os bernir bod ymgeisydd i fod yn destun 'ystyriaeth ychwanegol', gall hynny ddigwydd ar un o'r amryw ffurfiau a amlinellir isod, ond does dim bwriad gan y Brifysgol i ddefnyddio gwybodaeth gyd-destunol i wneud cynigion is neu wahanol i unrhyw grŵp penodol o fyfyrwyr.
Bydd pob ysgol academaidd sy'n cymryd rhan yn rhagbrawf y derbyn cyd-destunol yn esbonio sut mae hi'n bwriadu defnyddio'r data cyd-destunol ym meini prawf derbyn yr Ysgol wrth iddi wneud ei phenderfyniadau. Caiff y rhesymau eu cyhoeddi ar ein gwefan.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael isod am ddefnyddio data cyd-destunol:
I gael rhagor o wybodaeth/arweiniad, cysylltwch â:Swyddfa Dderbyn y Brifysgol Ffôn: 029 2087 9999E-bost: admissions@caerdydd.ac.uk
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.
Cip olwg ar y prosbectws