Skip to content Skip to navigation menu
Rhaid i bob ymgeisydd o dramor nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddo/iddi fod â lefel ddigon safonol o Saesneg iddo/iddi allu elwa’n llawn o’i gwrs/o’i chwrs astudio.
Mae’r mwyafrif o’r cyrsiau ym Mhrifysgol Caerdydd yn gofyn am sgôr IELTS o 6.5 neu 7.0.
Mae gan rai cyrsiau ofynion uwch – mae Newyddiaduraeth, er enghraifft, yn gofyn am sgôr IELTS o 7.5.
Mae’r cymwysterau iaith Saesneg a dderbynnir gan y Brifysgol, a’r sgorau sy’n ofynnol, wedi’u rhestru yma.
Mae rhagor o wybodaeth am y Rhaglenni Iaith Saesneg a gynigir gan Brifysgol Caerdydd i’w gweld yma.
Os bydd gennych chi gwestiwn am y gofynion iaith Saesneg neu am ddod i Gaerdydd o wlad dramor, cysylltwch â’r Swyddfa Ryngwladol.
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.
Cip olwg ar y prosbectws