Skip to content Skip to navigation menu
Mae’r datganiad personol ar ffurflen gais UCAS yn gyfle i chi argyhoeddi tiwtor derbyn eich bod chi’n addas i ddilyn rhaglen y radd rydych chi wedi’i dewis. Diben y wybodaeth isod yw’ch helpu chi i baratoi ar gyfer llunio’ch datganiad personol. I gael gwybod rhagor am ddatganiadau personol, ewch i wefan UCAS.
Gan fod llawer o fyfyrwyr yn cael cynnig lle mewn prifysgol heb fynd i gyfweliad, mae’r datganiad personol yn ffordd ddelfrydol i ddangos pa briodoleddau a sgiliau personol sydd gennych i’ch helpu chi i sicrhau lle ar gwrs. Yn ei hanfod, gallai’ch helpu chi i sicrhau lle amlwg i chi’ch hun o blith y llu myfyrwyr y gall eu hathrawon fod wedi rhagweld y cân nhw’r un graddau academaidd â chi. Os cewch chi’ch gwahodd i ddod i gyfweliad, gall rhai o’r cwestiynau a gaiff eu gofyn gael eu seilio ar y datganiad personol. Cofiwch gadw copi i gyfeirio ato.
Bydd y datganiad personol, felly, yn rhan hanfodol o’r broses dderbyn wrth benderfynu a gaiff myfyriwr gynnig lle yng Nghaerdydd.
Gall y datganiad personol hefyd wneud gwahaniaeth yn ddiweddarach yn y broses ymgeisio os byddwch chi wedi methu o drwch blewyn â chael y graddau sy’n ofynnol i ddilyn y cwrs. Bryd hynny, bydd y brifysgol yn debyg o droi at eich datganiad personol unwaith eto i weld a yw’ch diddordebau a’ch profiad chi’n dangos bod gennych chi unrhyw sgiliau ychwanegol a allai’ch helpu chi i lwyddo ar y cwrs.
Gweld ein canllaw cynhwysfawr i lunio’ch datganiad personol.
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.
Cip olwg ar y prosbectws