Skip to content Skip to navigation menu
Os ydych chi’n gwneud cais i ddod i Brifysgol Caerdydd, mae’r polisïau a’r gweithdrefnau isod yn berthnasol i chi:
Byddwn ni’n croesawu ceisiadau gan bob myfyriwr sydd â’r potensial i lwyddo yn y brifysgol hon. Byddwn ni’n ceisio derbyn myfyrwyr y gall eu hamrywiaeth o gymwysterau a chyflawniadau amlygu eu potensial i elwa o’n dysgu a’n haddysgu dan arweiniad ymchwil.
Rhagor am feini prawf derbyn myfyrwyr
Bydd croeso i geisiadau gan y rhai sy’n cynnig cymwysterau sy’n wahanol i’r rhai arferol, a hefyd i’r rhai a all fod â chyfuniadau o gymwysterau neu brofiad perthnasol arall o waith/bywyd.
Rhagor am gymwysterau
Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i roi cyfle i ymgeiswyr aflwyddiannus gael adborth priodol ar eu ceisiadau. Gall ymgeiswyr ofyn am adborth ynglŷn â’r penderfyniad cychwynnol a gawson nhw gan y Brifysgol.
Rhagor am gael adborth
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.
Cip olwg ar y prosbectws