Skip to content Skip to navigation menu
Er mai’r Saesneg yw prif gyfrwng yr addysg ym Mhrifysgol Caerdydd, mae’r ddarpariaeth Gymraeg yn cael ei datblygu mewn rhai meysydd. Efallai y bydd yr ysgoloriaethau a gynigir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o ddiddordeb i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau cymwys ac yn dymuno gwneud rhan o’u gradd drwy’r Gymraeg.
Gall siaradwyr Cymraeg deimlo'n fwy cyffyrddus wrth siarad â thiwtor personol sy'n siarad Cymraeg. Gwnawn ein gorau glas, felly, i neilltuo siaradwr(aig) Cymraeg i chi os oes digon o aelodau Cymraeg eu hiaith o'r staff yn eich pwnc chi. Gallwch chi hefyd gyflwyno gwaith i'w asesu, a sefyll arholiadau, drwy gyfrwng y Gymraeg waeth ym mha iaith yr addysgir y rhaglen. (Gall hynny beidio â bod yn bosibl mewn rhai meysydd clinigol.)
Mae rhai o’n fflatiau yn Llys Senghennydd a Gogledd Tal-y-bont wedi’u neilltuo ar gyfer siaradwyr Cymraeg a’r rhai sy’n dysgu Cymraeg. Os byddai’n well gennych chi fyw mewn fflat lle siaredir Cymraeg, nodwch hynny ar eich cais am lety.
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.
Cip olwg ar y prosbectws