Skip to content Skip to navigation menu
Cynigir y Rhaglen mewn modd amser llawn a modd rhan-amser gan arwain at gyflawni’r dyfarniad BSc (Anrh). Bydd myfyrwyr yn cychwyn ar y rhaglen ar lefel uwch; fel arfer, bydd myfyrwyr amser llawn yn cwblhau’r Rhaglen mewn 15 mis dros 2 flynedd academaidd. Mae strwythur modiwlar y Rhaglen yn galluogi myfyrwyr i gwblhau’r modiwlau gorfodol tra hefyd yn dewis y modiwlau amdriniaethol dewisol mwyaf priodol o gyfres o fodiwlau o fewn darpariaeth y Rhaglen. Mae’r modiwlau dewisol hyn, sef cyfanswm o 40 credyd, ynghyd â’r modiwlau gorfodol Sgiliau Ymchwil, Datblygu Ymarfer Proffesiynol a Thraethawd, yn gyfwerth â’r 120 o gredydau Lefel 3.
Cyflwynwyd y BSc (Anrh) presennol mewn Ymarfer Adrannau Llawdriniaethau yn 2003 mewn ymateb i alw cynyddol am ddarparu cyfleoedd ôl-cofrestru i weithwyr proffesiynol yn gweithio yn yr amgylchedd amdriniaethol.O ganlyniad, mae llawer o weithwyr proffesiynol amdriniaethol yn dymuno astudio ar lefel Baglor a thu hwnt; sefyllfa sydd wedi dylanwadu ar ailddatblygu’r ddarpariaeth BSc (Anrh) bresennol yn gynnar. Rhagwelir y bydd y proffesiwn Ymarferwyr Adrannau Llawdriniaethau yn symud i fod yn broffesiwn i bob myfyriwr graddedig o ran y cymhwyster sylfaenol y gellir ei gofrestru. Pan fydd y sefyllfa hon yn digwydd (ymarferiad cwmpasu a ddechreuwyd ym mis Mai 2007), mae’n debyg y byddai’r cymhwyster sy’n arwain at y teitl gwarchodedig ‘Ymarferydd Adrannau Llawdriniaethau’ yn BSc (Anrh) mewn Ymarfer Adrannau Llawdriniaethau. Nid yn unig y mae’r newid yn nheitl y rhaglen, felly, yn adlewyrchu newidiadau i ymarfer presennol, ond newidiadau i bolisi posibl yn y dyfodol hefyd.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â:Mrs Sian GoldenSwydd: Swyddog Cymorth YsgolionE-bost: CouchSE@caerdydd.ac.ukFfôn: +44 (0)29 206 87689Estyniad: 87689Lleoliad: Ystafell 3.33, Tŷ Dewi Sant, Campws Parc y Mynydd Bychan, Prifysgol Caerdydd, Caerdydd, CF14 4XN
Mae’r rhaglen Ymarferwyr Cynorthwyol yn gwrs blwyddyn amser llawn rhyddhau am y dydd wedi’i gynllunio ar gyfer personél cymorth GIG sy’n dymuno datblygu’u sgiliau a’u rôl fel aelod o’r tîm radiograffeg. Mae’n cynnwys 25% o ddysgu academaidd a 75% o ddysgu seiliedig ar waith, ac mae’n arwain at ddyfarnu Tystysgrif Addysg Uwch mewn Ymarfer Radiograffig Cynorthwyol. Bydd ymarferwyr cynorthwyol yn cyflawni tasgau cyfyngedig gan brotocol o dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth radiograffydd. Mae’r rhaglen yn paratoi Ymarferwyr Cynorthwyol ar gyfer un o’r meysydd canlynol mewn ymarfer radiograffig:
Mae Ymarferwyr Cynorthwyol mewn radiograffeg ddiagnostig yn cyflawni gweithdrefnau radiograffig diagnostig anghymleth ar oedolion sy’n gleifion sydd yn gallu cerdded. Mae eu gwaith yn digwydd mewn Ystafelloedd pelydr-X cyffredinol yn bennaf lle byddant yn cyflawni llawer o’r archwiliadau radiograffig sylfaenol. Efallai y byddant yn gweithio mewn ardaloedd delweddu radiograffig eraill yn unol â phrotocolau cytûn yr Ymddiriedolaeth GIG.
Mae Ymarferwyr Cynorthwyol mewn radiotherapi ac oncoleg yn cynorthwyo radiograffyddion mewn ystafelloedd triniaeth, yn enwedig y rhai sy’n darparu gofal lliniarol. Efallai y byddant yn helpu cyflawni triniaethau radiotherapi eraill yn unol â phrotocolau’r Ymddiriedolaeth GIG.
Mae Ymarferwyr Cynorthwyol mewn mamograffeg sgrinio yn cyflawni archwiliadau mamograffeg sylfaenol o fewn rhaglen sgrinio’r fron asymptomatig. Gan weithio ar y faniau sgrinio symudol, maent yn cynorthwyo radiograffyddion i ddarparu a chynnal gwasanaeth effeithlon sgrinio’r fron.
1 flwyddyn amser llawn
Mae’r rhaglenni wedi’u cymeradwyo gan Gymdeithas a Choleg y Radiograffyddion.
I gael mynediad i’r rhaglen, rhaid i fyfyrwyr:
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â:Miss Linda MutemaSwydd: Darlithydd - Cydlynydd y Rhaglen Ymarferwyr Cynorthwyol (Radiograffeg)E-bost: Mutema@caerdydd.ac.ukFfôn: +44 (0)29 206 87673Estyniad: 87673Lleoliad: Ystafell 3.31, Tŷ Dewi Sant, Campws Parc y Mynydd Bychan, Prifysgol Caerdydd, Caerdydd, CF14 4XN
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.
Cip olwg ar y prosbectws