Skip to content Skip to navigation menu
Mae'r tudalen hwn yn cynnig gwybodaeth ychwanegol i unrhyw ddarpar fyfyriwr sy'n ystyried astudio'r Dyniaethau ac Astudiaethau Cymdeithasol.
Mae'r rhaglenni gradd yn y pynciau hyn wedi eu cynllunio i gynnig amrywiaeth mawr o ddewisiadau i'n myfyrwyr. Caiff myfyrwyr BA astudio pynciau ychwanegol yn eu blwyddyn gyntaf.
Caiff rhaglenni gradd yn y Dyniaethau ac Astudiaethau Cymdeithasol eu haddysgu gan yr Ysgolion Academaidd hyn yng Nghaerdydd:
Fel rheol, byddwch chi’n astudio tri phwnc ym Mlwyddyn Un. Os dewiswch chi wneud rhaglen gradd Anrhydedd Sengl, fe astudiwch chi eich dewis bwnc ynghyd â dau bwnc ychwanegol yn eich blwyddyn gyntaf.
Os dewiswch chi wneud rhaglen gradd Gydanrhydedd, fe astudiwch chi’ch dewis bynciau ynghyd ag un pwnc arall yn eich blwyddyn gyntaf. Mae rhai eithriadau i hynny, e.e. bydd myfyrwyr sy’n astudio Siapanaeg ac iaith dramor arall yn treulio hanner eu hamser yn y flwyddyn gyntaf yn astudio’r naill iaith a’r hanner arall yn astudio’r llall.
Dylech chi sylweddoli y gall ysgol academaidd argymell yn gryf, yn achos rhaglen gradd benodol, fod ail bwnc yn arbennig o briodol.
Cewch chi ddewis eich tri phwnc ar gyfer Blwyddyn Un o blith y rhai sydd wedi’u rhestru yng ngrwpiau A-H isod, ond chewch chi ddim dewis mwy nag un pwnc o bob grŵp.
Ym Mlwyddyn Dau a'r Flwyddyn Olaf byddwch chi'n parhau i astudio'r pwnc Anrhydedd Sengl neu'r pynciau Cydanrhydedd. Cewch chi newid eich dewis o raglen eich gradd drwy newid o Anrhydedd Sengl i Gydanrhydedd, neu fel arall, neu drwy barhau i astudio un neu'r ddau o blith eich pwnc/pynciau ychwanegol o Flwyddyn Un drwy ddilyn rhaglen wahanol at eich gradd cyhyd â'ch bod chi wedi bodloni'r gofynion academaidd angenrheidiol ac wedi cael cymeradwyaeth penaethiaid yr ysgolion academaidd priodol.
Mae modd trosglwyddo i radd BScEcon ar ddiwedd Blwyddyn Un. I wneud hynny, rhaid i chi fel rheol fod wedi astudio’r pwnc/pynciau perthnasol ym Mlwyddyn Un ac wedi cael cymeradwyaeth pennaeth yr Ysgol briodol.
Byddwch yn dewis astudio chwe modiwl dwbl o blith y modiwlau a gynigir yn y pynciau isod. I barhau hyd at lefel Anrhydedd Sengl neu Gydanrhydedd, bydd gofyn i chi fel rheol gymryd rhai modiwlau craidd penodol ym Mlwyddyn Un. Gallwch chi gael y manylion, ac arweiniad, gan yr ysgol academaidd berthnasol.
Ym Mlwyddyn Dau a'r Flwyddyn Olaf, byddwch chi'n parhau i astudio'r pwnc Anrhydedd Sengl neu'r pynciau Cydanrhydedd y gwnaethoch chi eu dewis yn wreiddiol wrth wneud cais drwy UCAS. Cyhyd â'ch bod chi wedi cyflawni'r gofynion academaidd angenrheidiol ac wedi cael cymeradwyaeth penaethiaid yr ysgol(ion) academaidd briodol/priodol, efallai y cewch chi newid eich dewis o raglen eich gradd. Efallai, er enghraifft, y cewch chi newid o Anrhydedd Sengl i Gydanrhydedd, neu fel arall, neu barhau i astudio un o'ch pynciau ychwanegol, neu'r ddau ohonynt, o Flwyddyn Un.
Mae modd trosglwyddo i radd BA ar ddiwedd Blwyddyn Un. I wneud hynny, rhaid i chi fel rheol fod wedi astudio'r pwnc/pynciau perthnasol ym Mlwyddyn Un ac wedi cael cymeradwyaeth pennaeth yr Ysgol briodol.
Mae’r graddau BSc canlynol ar gael yn y Dyniaethau ac Astudiaethau Cymdeithasol:
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.
Cip olwg ar y prosbectws