Skip to content Skip to navigation menu
Fel myfyriwr israddedig, mae tri dewis ar gael i chi o ran gradd.
Mae gradd baglor yn gwrs astudio sy'n cymryd rhwng tair a phedair blynedd i'w gwblhau – pedair blynedd os dewiswch chi, er enghraifft, wneud cwrs sy'n cynnwys blwyddyn dramor neu flwyddyn mewn diwydiant. Caiff gradd baglor hefyd ei galw'n radd 'gyntaf' neu 'gyffredin' ac wrth ei gwneud hi fe wnewch chi fagu dealltwriaeth drylwyr o'r cwrs rydych chi'n ei astudio yn ogystal â dysgu'r sgiliau allweddol a aiff â chi ymlaen i'ch gyrfa broffesiynol.
Fel rheol, bydd gradd athro israddedig yn cymryd rhwng pedair a phum mlynedd i'w chwblhau – pum mlynedd os dewiswch chi, er enghraifft, wneud cwrs sy'n cynnwys blwyddyn dramor neu flwyddyn mewn diwydiant. Os astudiwch chi am flwyddyn arall ar ben eich gradd baglor, bydd gradd athro'n rhoi mwy o ddyfnder o wybodaeth o'ch pwnc i chi.
Mae cwrs diploma'n gwrs astudio nad yw'n para mwy na dwy flynedd. Caiff diplomâu eu dyfarnu gan yr Ysgol Deintyddiaeth (Dip/DH) a'r Ysgol Astudiaethau Gofal Iechyd (DipHE).
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.
Cip olwg ar y prosbectws