Skip to content Skip to navigation menu
Mae campws y Brifysgol yng nghanol Parc Cathays sef canolfan ddinesig ddeniadol Caerdydd. Fel yng nghanol unrhyw ddinas, gall lleoedd parcio fod yn brin. Felly, dylai ymwelwyr fanteisio ar gludiant cyhoeddus. Dyma gyfarwyddiadau manwl am sut i gyrraedd Prif Adeilad y Brifysgol.
Dylech deithio i orsaf Caerdydd Canolog (mae gorsafoedd y trenau a’r bysiau drws nesaf i’w gilydd). Mae trenau lleol yn teithio’n rheolaidd o blatfform 6 yng ngorsaf Caerdydd Canolog ac mae’n galw yng ngorsaf Cathays, sydd wrth ymyl Undeb Myfyrwyr Caerdydd ac mae Prif Adeilad y Brifysgol gyferbyn. Bydd myfyrwyr wrth law yng ngorsaf Caerdydd Canolog i’ch cyfeirio at y trên sy’n mynd i’r Brifysgol. (Mae’r daith yn cymryd oddeutu 6 munud). Cewch wybodaeth am fysiau ar wefan National Express yn: http://www.nationalexpress.com/coach Mae modd dod oddi ar rai bysiau ger Prifysgol Caerdydd yn ogystal â’r brif orsaf fysiau.
Mae nifer o wasanaethau rhyngranbarthol a rhyngwladol yn hedfan o Faes Awyr Cymru Caerdydd. Mae’r maes awyr tua 12 milltir o ganol y ddinas. Os ydych yn glanio yno, dylech ddal bws X90 i orsaf Caerdydd Canolog neu ddal bws am ddim i orsaf reilffordd Y Rhws (Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd). Mae pob trên o’r Rhws yn mynd i orsaf Caerdydd Canolog ac mae sawl un yn mynd i orsaf Cathays hefyd.
Os na fyddwch yn teithio i’r Diwrnod Agored ar gludiant cyhoeddus, cynghorir i chi ddefnyddio meysydd parcio cyhoeddus yng nghanol Caerdydd. Prin iawn yw’r lleoedd parcio yn y Brifysgol, felly maent yn cael eu cadw ar gyfer ymwelwyr ag anawsterau symudedd. Mae modd cerdded i’r Brifysgol o nifer o feysydd parcio – hwyrach mai’r rhai ym Mhlas Dumfries (heibio Plas Sant Andreas) a Heol y Gogledd yw’r rhai mwyaf hwylus. Mae system barcio talu ac arddangos hefyd ar waith yn rhai o’r strydoedd o amgylch campws y Brifysgol. Mae’n costio tua £3.50 fel arfer i barcio am bum awr a chewch dalu â darnau arian neu gerdyn debyd/credyd. Mae’n costio £5.00 i barcio am y dydd ym maes parcio Heol y Gogledd (mae prisiau meysydd parcio aml-lawr canol y ddinas yn amrywio’n helaeth a gallent gostio hyd at £12 y dydd).
Mae gan Gyngor Caerdydd wasanaethau Parcio a Theithio sy’n teithio o ddwyrain a gorllewin Caerdydd bob chwarter awr. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan y cyngor: www.caerdydd.gov.uk
Dylai bysiau preifat deithio ar hyd Rhodfa Brenin Edward VII i’r Brifysgol, troi i’r dde i Ffordd y Coleg ac i’r dde eto i Rodfa’r Amgueddfa lle gallent ddadlwytho.
Please help us improve our open day website by taking our 60 second survey.
Take survey now
Survey will open in a new window
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.
Cip olwg ar y prosbectws