Skip to content Skip to navigation menu
Mae Caerdydd wedi ymrwymo i alluogi pob ymgeisydd, myfyriwr ac ymwelydd i symud o gwmpas y Brifysgol yn hwylus. Os oes gennych chi, neu unrhyw un arall yn eich grŵp, ofynion arbennig yn sgil anabledd, cyflwr meddygol neu anhawster dysgu penodol, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt isod er mwyn i ni allu gwneud trefniadau priodol cyn eich ymweliad.
Os oes gennych anawsterau symud, dylech fynd i’r Brifysgol ar hyd Plas y Parc a pharcio ym maes parcio Prif Adeilad y Brifysgol. CF10 3AT yw côd post y Prif Adeilad os ydych yn defnyddio teclyn llywio lloeren (Sat Nav).Os ydych yn teithio i Gaerdydd ar drên/fws ac am barhau â’ch taith i’r Brifysgol mewn tacsi sydd â lle i gadair olwyn ynddo, ffoniwch Capital Black Cabs - 029 20 777 777.
Ar ôl cyrraedd y Brifysgol, cofiwch fod bws mini hwylus ar gael ar eich cyfer drwy gydol y dydd. I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, cysylltwch ag Angela Gough yn nerbynfa’r babell fawr ym maes parcio’r Prif Adeilad. Bydd Angela yn cysylltu â’r gyrrwr ar eich rhan. Mae ychydig o gadeiriau olwyn ar gael hefyd i ymwelwyr yn y Prif Adeilad.
I allu paratoi eich taith o amgylch adeiladau’r Brifysgol ymlaen llaw, cliciwch Fapiau Hygyrchedd y Campws.Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y ddarpariaeth sydd ar gael i fyfyrwyr ag anabledd, cyflwr meddygol neu anhawster dysgu penodol, neu am y grantiau a’r cymorth sydd ar gael, ewch i siop galw heibio ‘Cyllid a Chymorth Myfyrwyr’ yn y Prif Adeilad. (Mae’r siopau cynghori ar eu prysuraf rhwng 9am ac 1pm, felly hwyrach mai ymweld â’r rhain yn y prynhawn fyddai orau os hoffech gael sgwrs hirach gyda staff y brifysgol.)
Gallwn gyflwyno rhaglen y Diwrnod Agored mewn sawl dull (gan gynnwys Braille, tâp sain neu ffeil testun) ar gais. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:Canolfan Cynghori Myfyrwyr 50 Plas y Parc Cathays CF10 3AT Ffôn: 029 2087 4844
Ebost: disability@caerdydd.ac.uk neu dyslexia@caerdydd.ac.uk
Please help us improve our open day website by taking our 60 second survey.
Take survey now
Survey will open in a new window
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.
Cip olwg ar y prosbectws