Skip to content Skip to navigation menu
Os na allwch chi ddod i’r Diwrnod Agored neu’r Diwrnodau Ymweld, gallwch chi ddilyn taith hunandywys o amgylch y campws.
Bydd y daith yn rhoi cyfarwyddiadau clir i’ch cyfeirio chi o amgylch y campws ac yn cyflwyno ffeithiau diddorol am ein cyfleusterau. Rhyw awr y dylai hi bara.
Sylwch: dydy teithiau hunandywys ddim yn cynnwys campws Parc Mynydd Bychan nac ystafelloedd yn y Neuaddau Preswyl.
Llwytho PDF o'r daith hunandywys i lawr
Os na allwch chi lwytho’r daith hunandywys i lawr, galwch yn y Swyddfa Denu Israddedigion i gasglu copi ohoni - bydd ein staff yn eich cynghori ynghylch ble y dylech chi fynd a beth sydd i’w weld yno.
Y Swyddfa Denu Israddedigion, Prifysgol Caerdydd, Tŷ Deri, 2-4 Park Grove, Caerdydd CF10 3BN
Ffôn: 029 2087 4455 E-bost: enquiry@caerdydd.ac.uk
Oriau agor: Llun – Gwener, 9am - 5pm (ac eithrio gwyliau banc ac wythnos gwyliau’r Nadolig)
Sylwch: os hoffech chi siarad â thiwtor derbyn yn ystod taith hunandywys, bydd angen i chi wneud eich trefniadau’ch hun â’r Ysgol Academaidd berthnasol.
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.
Cip olwg ar y prosbectws