Skip to content Skip to navigation menu
Gan ein bod ni’n awyddus i ddenu’r myfyrwyr gorau un, fe drefnwn ni i ryw 100 o Ysgoloriaethau nodedig Prifysgol Caerdydd fod ar gael yn 2013 i’n helpu i sicrhau hynny.
Mae pob un o Ysgoloriaethau Prifysgol Caerdydd yn werth £3,000. Taliadau mewn arian ydyn nhw a does dim prawf modd.
Mae'r ysgoloriaeth ar gael i fyfyrwyr israddedig bydd yn cychwyn astudio yn y brifysgol o Fedi 2013.
I weld rhestr o’r pynciau sy’n gymwys, cliciwch yma.
Caiff yr ysgoloriaethau eu dyfarnu i fyfyrwyr o’r DU a fydd yn dod i Brifysgol Caerdydd ym mis Medi 2012 ac yn cymryd un o’r rhaglenni gradd sydd wedi’u dynodi ar gyfer ysgoloriaeth.
I gael ysgoloriaeth, bydd angen i chi wneud hyn:
Does dim angen i chi wneud cais am unrhyw un o’r ysgoloriaethau hyn. Cyhyd â’ch bod chi, erbyn 31ain Gorffennaf 2012, wedi derbyn yn bendant y cynnig yr ydych chi wedi’i gael i ddilyn rhaglen gradd ddynodedig gan Brifysgol Caerdydd, cewch chi’ch ystyried ar gyfer ysgoloriaeth yn awtomatig.
Caiff y rhai sy’n llwyddiannus wybod ar bapur cyn gynted â phosibl ym mis Medi 2012.
Caiff y myfyrwyr llwyddiannus £1,500 yn eu blwyddyn gyntaf, ac os bydd eu perfformiad academaidd yn dal i fod yn foddhaol, caiff y £1,500 a fydd yn weddill ei dalu mewn rhandaliadau cyfartal ym mhob un o’r gweddill o flynyddoedd eu cwrs.
I gael gwybod rhagor am yr ysgoloriaethau, cysylltwch â: Sheila King: +44 (0)29 2087 9128Helen Kerrigan: +44 (0)29 2087 9320E-bost: bursariesandscholarships@caerdydd.ac.uk
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.
Cip olwg ar y prosbectws