Skip to content Skip to navigation menu
Hoffech chi gael £3000 yn eich poced am astudio drwy gyfrwng y Gymraeg?
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig cynlluniau ysgoloriaeth cyfrwng-Cymraeg i israddedigion sy’n astudio’r Gymraeg a’r Gyfraith drwy’r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae dwy ysgoloriaeth a fydd yn werth £3000 (dros dair blynedd) wedi’u dyrannu i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio’r Gymraeg (anrhydedd sengl) yng Nghaerdydd o fis Medi 2013 ymlaen.
Mae dwy ysgoloriaeth arall wedi’u dyrannu i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio’r Gyfraith, a’r Gyfraith gyda’r Gymraeg (cydanrhydedd), ym Mhrifysgol Caerdydd o fis Medi 2013 ymlaen.
Yn achos y rhai sy’n awyddus i astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, caiff yr ysgoloriaethau eu dyfarnu ar sail rhagoriaeth mewn papur arholiad a osodir gan Ysgol y Gymraeg. Caiff ymgeiswyr sefyll yr arholiad dwyawr yn eu hysgol neu eu coleg (gyda chaniatâd y Prifathro neu’r Brifathrawes) neu yn Ysgol y Gymraeg.
Yn achos y rhai sy’n dymuno astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd, dyfernir yr ysgoloriaethau mewn ffordd debyg i’r uchod.
Mae’r dyddiad cau ar gyfer y Brif Ysgoloriaeth (2012/13) wedi mynd heibio erbyn hyn. I gael gwybod rhagor, cysylltwch ag Ysgol y Gymraeg neu Ysgol y Gyfraith, neu ewch i wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae’r Ysgoloriaethau Cymhelliant yn werth £500 y flwyddyn (neu hyd at £1,500 dros dair blynedd) ac yn agored i fyfyrwyr sy’n bwriadu astudio o leiaf draean (neu o leiaf 40 credyd y flwyddyn) o’u cyrsiau gradd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae dyddiad cau gwneud cais am yr Ysgoloriaeth Cymhelliant (2012/13) wedi mynd heibio erbyn hyn.
Mae Ysgoloriaethau Cymhelliant ar gael yn y cyrsiau gradd isod ym Mhrifysgol Caerdydd o fis Medi 2013 ymlaen:
Y Gyfraith
Y Gyfraith a’r Gymraeg
Bioleg
Ecoleg
Swoleg
I gael gwybod rhagor, ewch i wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.
Cip olwg ar y prosbectws