Skip to content Skip to navigation menu
O 2012 ymlaen, mae cyllid y Llywodraeth i addysg uwch yn newid. O ganlyniad, bydd Prifysgol Caerdydd yn codi ffi ddysgu o £9,000 y flwyddyn ar fyfyrwyr israddedig newydd sy’n cychwyn ar eu hastudiaethau o fis Medi 2012 ymlaen. Bydd hynny’n sicrhau y caiff yr addysgu blaengar (dan arweiniad ymchwil) yn y Brifysgol ei ddiogelu ac y caiff profiad bywiog ein myfyrwyr ei gynnal a’i wella’n barhaus.
Gan y bydd y mwyafrif o fyfyrwyr o’r DU/UE yn gymwys i gael cymorth ariannol i dalu holl gost y ffi ddysgu, fydd dim i’w dalu ar y cychwyn. Fydd dim gofyn i chi dalu unrhyw arian yn ôl tan i chi raddio a dechrau ennill mwy na £21,000 y flwyddyn. Cliciwch ar y cysylltau isod i gael gwybod rhagor am eich sefyllfa chi:
Os hoffech chi gael gwybod rhagor am ffioedd ôl-raddedig, cliciwch yma.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i sicrhau y gall pawb sydd â’r gallu i astudio yng Nghaerdydd wneud hynny beth bynnag yw ei (h)amgylchiadau ariannol. Mae pecyn cynhwysfawr o ysgoloriaethau a bwrsariaethau wedi’i ddatblygu i ddarparu cymorth ariannol ychwanegol.
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.
Cip olwg ar y prosbectws