Skip to content Skip to navigation menu
Bydd Prifysgol Caerdydd yn codi ffi flynyddol o £9,000.
Os ydych chi’n byw yn Lloegr ac yn astudio at eich gradd gyntaf, fyddwch chi ddim yn gorfod talu’ch ffi ddysgu ar y cychwyn (rhaid bodloni’r telerau a’r amodau). Gallech chi fod yn gymwys i gael benthyciad ffi dysgu o £9,000 na fyddwch chi’n dechrau ei dalu’n ôl ond pan fyddwch chi wedi gorffen eich astudiaethau ac yn ennill mwy na £21,000 y flwyddyn (rhaid bodloni’r telerau a’r amodau).
Sylwch fod y Senedd yn dal heb gadarnhau’n derfynol y trefniadau cymorth i fyfyrwyr yn Lloegr.
I gael gwybod am y cymorth ariannol i fyfyrwyr o’r Alban a Gogledd Iwerddon, ewch i’r gwefannau perthnasol isod.
Dros y blynyddoedd diwethaf, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (y GIG) sydd wedi talu ffioedd y myfyrwyr o’r DU/UE sydd wedi cael lleoedd a ariannir gan y GIG i ddilyn cyrsiau iechyd israddedig – Bydwreigiaeth, Ffisiotherapi, Hylendid Deintyddol, Nyrsio, Radiograffeg, Therapi Deintyddol a Therapi Galwedigaethol. Caiff rhagor o wybodaeth am y cymorth ariannol a fydd ar gael yn 2012/13 ei chyhoeddi ar wefan y GIG maes o law.
LloegrY We: www.direct.gov.uk/studentfinanceFfôn: 0845 607 7577
Gogledd IwerddonY We: www.studentfinanceni.co.ukFfôn: 0845 600 0662
Yr AlbanY We: http://www.saas.gov.uk/Ffôn: 0845 111 1711
Canolfan Cymorth Myfyrwyr Prifysgol CaerdyddY We: www.caerdydd.ac.uk/studentsupportFfôn: 029 2087 4844E-bost: studentsupportcentre@caerdydd.ac.uk
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.
Cip olwg ar y prosbectws