Skip to content Skip to navigation menu
Cartref y Brifysgol yw canolfan ddinesig ddeniadol Caerdydd, ac mae’n bum munud o waith cerdded o ganol y ddinas. Mae’r adeiladau academaidd, preswylfeydd y myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr o fewn pellter cerdded byr i’w gilydd.
Mae’r Brifysgol yn gwarantu llety i bob myfyriwr blwyddyn-gyntaf sy’n dod drwy’r cylch ymgeisio arferol. Mae cyfleusterau en-suite mewn dwy o bob tair o’r ystafelloedd gwely-ac-astudio ac mae pwynt cyswllt cyfrifiadurol â’r rhwydwaith ym mhob ystafell yn y neuaddau preswyl.
Os yw incwm eich cartref hyd at £30,000, efallai y bydd eich mab/merch yn gymwys i gael bwrsariaeth (nad oes angen ei had-dalu) gan Brifysgol Caerdydd, a gallai hynny ychwanegu at gyfanswm yr arian a gaiff eich mab/merch gan y llywodraeth a’i godi i £7,500.Os yw incwm eich cartref rhwng £30,001 a £42,600, efallai y bydd eich mab/merch yn gymwys i gael bwrsariaeth (nad oes angen ei had-dalu) gan Brifysgol Caerdydd, a gallai hynny ychwanegu at gyfanswm yr arian a gaiff eich mab/merch gan y llywodraeth a’i godi i £6,750.Rhaid bodloni’r telerau a’r amodau, a bydd swm y fwrsariaeth yn amrywio yn ôl faint o arian y bydd y llywodraeth yn ei roi at gostau byw. Ewch i’r tudalennau am fwrsariaethau i gael gwybod rhagor a chael rhagor o fanylion am fod yn gymwys.Mae gennym ni amryw o gynlluniau Ysgoloriaeth mewn amrywiaeth o bynciau i’r rhai sydd wedi cael AAA neu ganlyniadau cyfwerth. I gael gwybod rhagor, ewch i’r tudalennau ynghylch ysgoloriaethau.
Er bod Caerdydd yn cynnig holl fanteision prifddinas, mae cost byw yma’n isel iawn o’i chymharu â chost byw yn llawer o ddinasoedd eraill y DU. Amcangyfrifwn mai isafswm y costau byw ar gyfer 2011/12 yw £6,480 am 9 mis neu £8,760 am 12 mis. Mae’n Canolfan Cymorth Myfyrwyr yn cynnig cyngor ac arweiniad.
Oherwydd lleoliad canolog dau gampws a neuaddau preswyl y Brifysgol, mae llwybr y daith rhwng canol y ddinas, y Brifysgol a’r cartref yn un hwylus a phrysur ac wedi’i goleuo’n dda. Mae gan y Brifysgol hefyd wasanaeth diogelwch 24-awr ar y ddau gampws a’r neuaddau preswyl, a bydd hi’n cydweithio’n agos â’r heddlu ac Undeb y Myfyrwyr.
Bydd ein cysylltiadau agos ni â chyflogwyr a chyrff proffesiynol, a safon uchel a chydnabyddedig ein haddysgu, yn sicrhau y caiff graddedigion Caerdydd eu harfogi â’r sgiliau, y wybodaeth a’r agweddau y bydd cyflogwyr heddiw’n chwilio amdanyn nhw. Bob blwyddyn, bydd rhyw 94% o’n graddedigion yn mynd i swydd, i gael hyfforddiant proffesiynol neu i astudio’n ôl-raddedig ymhen chwe mis ar ôl iddyn nhw raddio.
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.
Cip olwg ar y prosbectws