Skip to content Skip to navigation menu
Gall ennill gradd gynyddu a gwella cryn dipyn ar ragolygon gyrfa’ch mab neu’ch merch. Nid yn unig y caiff ef neu hi ddewis ehangach o yrfa ar ôl ennill gradd, ond mae’n debyg o symud i fyny ysgol gyrfa’n gynt o lawer. Er y byddai hi’n gamarweiniol honni bod gradd yn gwarantu swydd, mae mwy a mwy o sefydliadau’n mynnu bod gan bobl radd cyn iddyn nhw wneud cais am swydd.
Yn aml, bydd myfyrwyr yn dewis astudio ar lefel addysg uwch i ddilyn eu diddordeb mewn pwnc penodol neu mewn galwedigaeth benodol ymhellach. Chaiff neb ymarfer mewn rhai gyrfaoedd – fel gyrfaoedd ym myd meddygaeth, nyrsio, pensaernïaeth, y gyfraith a fferylliaeth – heb radd alwedigaethol benodol.
Mae’r ystadegau’n dangos bod graddedigion yn ennill cryn dipyn yn fwy na rhai sydd heb gymwysterau o fyd addysg uwch. Ar ôl cael gradd, bydd dewisiadau’ch mab neu’ch merch yn ehangach, ac fe gaiff lai o drafferth cael swydd ac i ddal i fod mewn gwaith.
Bydd gradd nid yn unig yn rhoi gwybodaeth fanwl i fyfyrwyr am eu dewis bwnc ond hefyd yn golygu eu bod nhw’n fwy cyflogadwy am eu bod nhw’n datblygu sgiliau trosglwyddadwy fel sgiliau cyfathrebu, sgiliau cyflwyno a sgiliau datrys problemau, ac yn gwella’u gallu i weithio fel rhan o dîm.
Bydd prifysgol yn helpu myfyrwyr i feithrin eu hunanhyder a’u hannibyniaeth. Fe gân nhw’r cyfle i fynd ar drywydd gwahanol ddiddordebau drwy Undeb y Myfyrwyr ac i wneud ffrindiau newydd o wahanol wledydd a chefndiroedd.
Yn aml, bydd myfyrwyr yn dewis astudio pwnc am iddyn nhw ei fwynhau yn yr ysgol neu’r coleg. Bydd dod i wybod rhagor am rywbeth y maen nhw’n ei fwynhau yn dangos eu hymrwymiad ac, yn aml, yn sicrhau canlyniadau gwych iddyn nhw.
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.
Cip olwg ar y prosbectws