Skip to content Skip to navigation menu
Rydyn ni’n cynnig dros 300 o raglenni gradd a system fodiwlaidd sy’n cynnig llawer iawn o hyblygrwydd a dewis. Bydd llawer o’r rhaglenni’n gadael i chi ohirio’ch dewis arbenigedd tan yr ail flwyddyn ond bydd eraill yn paratoi myfyrwyr yn drylwyr o’r cychwyn cyntaf. Am fod gan y Brifysgol gysylltiadau â mwy na 100 o brifysgolion yn Ewrop, caiff llawer myfyriwr gyfle i astudio dramor.
Bob blwyddyn, byddwn ni’n derbyn rhyw 4,500 o ymgeiswyr israddedig. Daw’r mwyafrif mawr iawn ohonyn nhw o ysgolion a cholegau, ac ar gyfartaledd mae ganddyn nhw dros dair gradd B yn Safon Uwch. I weld gofynion mynediad y cwrs rydych chi wedi’i ddewis, chwiliwch am ofynion mynediad rhaglen y radd honno.
Mae prosbectws 2012 ar gael i’w weld ar-lein fel cylchgrawn digidol rhyngweithiol. Bydd croeso i chi hefyd ofyn am gopi caled ohono, ac fe bostiwn ni hwnnw atoch chi.
Mewn rhai achosion, fe dderbyniwn ni fyfyrwyr sy’n trosglwyddo. Bydd angen i chi gysylltu â Thiwtor Derbyn eich cwrs i drafod y posibilrwydd o drosglwyddo. Defnyddiwch y manylion cysylltu ar broffil y cwrs.
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.
Cip olwg ar y prosbectws