Skip to content
Skip to navigation menu

English

Ffynnu

Myfyrwyr Caerdydd

Oes gennych chi gwestiwn yr hoffech chi ei ofyn i'n myfyrwyr ni? Tanysgrifiwch i'r myfyrwyr sydd gennym ni ar Facebook a holwch nhw am fywyd myfyrwyr.

Sut beth yw diwrnod arferol? Pa glybiau a chymdeithasau sydd yno? Ydy'r sîn gerddorol yng Nghaerdydd o unrhyw werth? Os hoffech chi wybod sut beth yn union yw bywyd myfyriwr yng Nghaerdydd, tanysgrifiwch i'n myfyrwyr - yr 'Insiders' - ar Facebook. Maen nhw i gyd yn fyfyrwyr ar hyn o bryd a byddan nhw'n rhannu eu profiadau o fywyd go-iawn ar-lein drwy eu tudalennau go-iawn eu hunain ar Facebook.

Tanysgrifiwch

Cliciwch ar unrhyw un o'r myfyrwyr isod i chi fynd i'w gyfrif/i'w chyfrif Facebook. O'r fan hon, cliciwch ar y botwm tanysgrifio ar eu tudalen flaen i ddilyn eu negeseuon diweddaraf. Cewch chi weld beth maen nhw wedi bod yn ei wneud yng Nghaerdydd a chewch chi flas ar y profiad y gallech chi ei gael yma fel myfyriwr.

Holwch nhw

Maen nhw'n fwy na pharod i sôn am eu bywyd yng Nghaerdydd ac ateb unrhyw un o'ch cwestiynau. Hoffech chi wybod rhagor am y campau y maen nhw'n cymryd rhan ynddyn nhw? Pa glybiau lleol y byddan nhw'n mwynhau mynd iddyn nhw? Pa mor agos yw eu cigydd agosaf? Gallwch chi ofyn unrhyw beth drwy roi sylw ar eu statws!

Dyma nhw

Image description

Aarifa

Deintyddiaeth, Blwyddyn 1af

Arifa Hussain ydw i ac rwy'n Fyfyrwraig Deintyddol ar fy mlwyddyn gyntaf. Rwy'n dwlu ar bopeth sydd ynghlwm wrth gelfyddyd a bydda i'n (ceisio) rhedeg yn gyson :L Bydda i'n canu'r piano ond hefyd wrth fy modd yn diogi. Rwy' wedi gwylio pob wan jac o benodau Smallville :L


Image description

Aimee-Louise

Cerddoriaeth, Blwyddyn 1af

Rwy'n astudio cerddoriaeth a cherddoriaeth sy'n llanw fy myd i, fwy neu lai. Bydda i'n mwynhau bron pob math o gerddoriaeth heblaw heavy metal. Er 'mod i'n cael blas ar wersylla a bod yn yr awyr agored, mae'n gas gen i law!


Image description

Anna

Cymraeg, 2il Flwyddyn

Ar hyn o bryd, dwi'n fyfyrwraig ail flwyddyn yma yng Nghaerdydd yn astudio'r Gymraeg ac yn joio'r cyfleoedd gwych sydd i gael 'ma. Ers bod yn fyfyrwraig dwi di dod yn feistres ar wneud "soups" a wedi datblygu obsesiwn o nofio. Dwi wrth fy modd yn bod yn anturus, ac ers yr haf wedi datblygu cariad at gerddad mynyddoedd a nofio mewn llynnoedd. Edrych mlaen i deithio Ewrop a Chymru haf' 'ma!!


Image description

Daniel

Cynllunio a Daearyddiaeth, ail flwyddyn

Myfyriwr ail-flwyddyn sy'n astudio Cynllunio a Daearyddiaeth ydw i ac rwy'n byw yn ardal Cathays yng Nghaerdydd. Brodor o Fanceinion ydw i'n wreiddiol a bues i bron â baglu ar draws Caerdydd. Dydw i ddim wedi edrych yn ôl ers hynny. Mae hi fel petai popeth yma, ac mae'n siŵr bod llwythi o bethau i'w darganfod eto. Yn fy amser rhydd bydda i'n mwynhau rhoi cynnig ar weithgareddau a champau newydd ac rwy'n cael blas mawr ar deithio am fod hynny'n ffordd i mi gyfarfod â phobl newydd, magu profiad o'r awyr agored ac ymchwilio i'r anhysbys. I 'nghadw i'n brysur, rwy'n gynrychiolydd fy nghwrs, yn gynrychiolydd gyrfaoedd myfyrwyr ac yn warden preswylfa ar hyn o bryd. Rwy'n edrych ymlaen at wynebu heriau Gwobr Caerdydd dros y flwyddyn nesaf, ac at gymryd rhan yn y Clwb Caiacio a phêl-droed IMG.


Image description

Freya

Athroniaeth, 3edd flwyddyn

Rwy'n fyfyrwraig hwyliog a hamddenol sy'n mwynhau dim byd mwy na threulio amser gyda fy nghyfeillion, chwarae campau, coginio neu deithio'r byd. Rwy'n cael blas mawr ar astudio athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae fy nhraethawd hir yn dod yn ei flaen yn eithaf da hefyd, credwch neu beidio! Ar ôl gorffen astudio mae arna i eisiau mynd i weld rhagor ar y byd cyn mentro i yrfa y bydda i, gobeithio, yn dwlu arni (beth bynnag fydd hi!). Rwy' bob amser yn barod i gael hwyl ac yn gwneud fy ngorau glas i ddweud 'iawn!' i bob cyfle!


Image description

George

2nd year Architecture

Being a second year architect I guess you could say I'm creative; I'm a keen photographer and pay the bills working as a club photographer in the union. I'm an avid skier and surfer, lover of mountains,sea and (being a Devon boy) cider!


Image description

Hannah

Seicoleg, ail flwyddyn

Rwy' ar fy ail flwyddyn o astudio Seicoleg gyda Chwrs Lleoliad Proffesiynol ym Mhrifysgol Caerdydd – ac yn dwlu ar y bywyd 'ma. Gan 'mod i hefyd wrthi'n dawnsio ers i mi fod yn rhyw 7 oed ac yn ffoli ar wneud hynny, does dim angen dweud 'mod i wedi ymuno'n syth â grŵp dawns sy'n perfformio yng Nghaerdydd a'r cylch. Bydda i hefyd yn dwlu ar ganu (yn y gawod), ar fod yn aelod o bwyllgor y Gymdeithas Seicoleg, ar weithio ar gwpwl o brosiectau gwirfoddoli ac ar fyw bywyd myfyrwraig! Fy mhleser bach cudd yw 'mod i hefyd, hwyrach, yn dipyn o ffanatig ynghylch Lady Gaga a Glee!


Image description

Lewys

Meddygaeth, 5ed flwyddyn

Cymro gwlatgar sy'n fyfyriwr meddygol ar ei flwyddyn olaf ac yn ceisio cyrraedd tîm treiathlon Team GB. Enillydd medal aur Pencampwriaethau 'Duathlon' y Byd. Yn gaeth i'r British Bake-off, yn ddarpar gogydd o fri ac wrth 'y modd yn bwyta bisgedi.


Image description

Matthew

Peirianneg, blwyddyn 1af

Chwaraewr gitâr, gogydd amatur, rhaglennydd meddalwedd pwyllog a pheiriannydd campus. Yn dwlu ar roc clasurol, mynyddoedd Cymru a chwrdd â phobl. Yn casáu gwydr aneglur a phethau nad ydyn nhw'n gweithio.

Is-raddedigion