Skip to content Skip to navigation menu
O ohirio’ch dewis terfynol o radd tan ddiwedd eich blwyddyn gyntaf i addasu rhaglen eich gradd i gyd-fynd â’ch diddordebau ac yna ymlaen i dreulio blwyddyn dramor neu mewn diwydiant, ein nod ni yn y pen draw yw cynnig hyblygrwydd i chi.
Nodwedd arbennig o ddeniadol yw strwythur rhaglen eich gradd. Mewn llawer achos, cewch chi ohirio dewis pynciau’ch gradd yn derfynol tan ddiwedd eich blwyddyn gyntaf.
Mewn meysydd astudio eraill, mae cymaint o amrywiaeth o ddewisiadau nes y cewch chi, i bob pwrpas, addasu rhaglen eich gradd i gyd-fynd â’ch diddordebau penodol a’ch uchelgais o ran gyrfa. Mewn rhai rhaglenni, bydd cwblhau’ch gradd yn llwyddiannus yn eich eithrio’n rhannol neu’n llwyr rhag cymryd arholiadau proffesiynol.
Bydd llawer o’n rhaglenni’n elwa am fod iddyn nhw gryn gynnwys galwedigaethol a phroffesiynol, a bydd eraill yn cynnig cyfle i chi dreulio cyfnod mewn diwydiant i fagu profiad ac arbenigedd.
Mae cyfleoedd hefyd ar gael i dreulio cyfnod yn astudio yn Ewrop fel rhan o raglen gyfnewid Erasmus. Gall ein Swyddfa Ryngwladol eich helpu i fanteisio’n llawn ar gysylltiadau’r Brifysgol â phrifysgolion sefydledig mewn 20 o wledydd yn Ewrop, yn ogystal â manteisio ar gyfleoedd cyfnewid mewn gwledydd ymhellach i ffwrdd.
Mae rhaglen pob gradd mewn iaith fodern yn para pedair blynedd ac yn cynnwys treulio blwyddyn yn y wlad berthnasol yn Ewrop. Mae rhaglenni graddau eraill yn cynnwys elfen o iaith dramor.
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.
Cip olwg ar y prosbectws